Awdurdodau'n taclo newyn plant dros wyliau'r haf
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru, cynghorau, capeli a banciau bwyd yn paratoi er mwyn sicrhau nad yw plant o deuluoedd incwm isel yn llwglyd yn ystod gwyliau'r haf.
Mae'r chwech wythnos o wyliau yn golygu bod posib i blant sy'n ddibynnol ar glybiau brecwast a chinio ysgol am ddim orfod gwneud heb.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi eu bwriad i ddarparu cinio am ddim i bob plentyn sy'n mynychu eu cynllun chwarae dros yr haf.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Bernie Attridge na ddylai unrhyw blentyn fod yn llwglyd yn ystod yr haf.
Fel rhan o gynllun chwarae'r sir bydd y cyngor yn darparu 800 pryd o fwyd ar hyd 19 gweithgaredd.
Yn ôl Mr Attridge mae hi'n "ddychrynllyd meddwl bod rhai teuluoedd methu fforddio bwyd" yn ystod gwyliau'r ysgol.
'Cynllun uchelgeisiol'
Yn ystod y tymor ysgol mae teuluoedd sy'n gymwys yn derbyn prydau ysgol am ddim, ac mae gan bob plentyn cynradd yr hawl i dderbyn brecwast am ddim hefyd.
Ond yn ystod y gwyliau dyw'r prydau ddim ar gael ac mae rhai teuluoedd yn ei gweld hi'n anodd ymdopi.
Yn ôl adroddiad ar newyn gan grŵp seneddol y llynedd, mae colli prydau ysgol yn ystod y gwyliau yn ychwanegu rhwng £30 a £40 at wariant wythnosol teuluoedd incwm isel.
Mae Share Your Lunch yn "gynllun uchelgeisiol fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gannoedd o bobl yn ein cymuned," meddai Mr Attridge.
"Er ein bod ni wedi sicrhau tua thri chwarter y cyllid sydd ei angen, mae menter o'r fath yn ddrud a gallwn ni dal elwa o fwy o gefnogaeth gan fusnesau lleol sy'n fodlon helpu."
Ar hyn o bryd mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
Roedd y galw am fwyd mor uchel mewn rhannau o Gymru yn ystod haf 2017, fe wnaeth rhai banciau bwyd redeg allan o gynnyrch, ac mae'r Trussell Trust - sy'n rheoli'r rhwydwaith mwyaf o fanciau bwyd yng Nghymru - yn disgwyl mwy o alw eto eleni.
'Teimlo embaras'
Dywedodd y Parchedig Chris Lewis, cadeirydd banc bwyd ym Monymaen, fod paratoadau eisoes yn cael eu gwneud ar gyfer yr haf yma.
"Mae gennym ni rywfaint o buffer, ond rydyn ni wastad angen mwy. Mae mynydd ffa pôb yn fwy o dwmpath ar hyn o bryd," meddai.
Dywedodd bod y banc yn bwydo tua 30 oedolyn a 13 o blant bob dydd, ond mae plant yn aml yn gyndyn o ddod gan eu bod nhw'n "teimlo embaras".
Mae nifer o gapeli a chanolfannau cymdeithasol hefyd yn paratoi i helpu.
Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu menter o'r enw Bwyd a Hwyl mewn 16 awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod y gwyliau.
Mae'r fenter wedi'i hanelu at ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol ac yn cynnwys plant o'r cyfnod sylfaen hyd at 19 oed.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fydd yn gweinyddu'r fenter, sy'n cynnig brecwast a chinio am ddim ar y cyd gyda gweithgareddau amrywiol er mwyn hybu iechyd da yn gyffredinol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Rydym ni'n cydnabod fod hyn yn broblem wirioneddol i rai teuluoedd.
"Mae'r teuluoedd yn ei gweld hi'n anodd pan nad oes cyfle i gael pryd yn ystod y diwrnod ysgol.
"Felly mae'r bwyd ei hun yn fater, ond mae'n sialens hefyd i ddarparu gweithgareddau gwerthfawr a hwylus sy'n cadw plant yn weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol yn ystod yr haf, a hynny yn rhad ac am ddim."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2017