Dod i adnabod cystadleuwyr Dysgwyr y Flwyddyn 2018

  • Cyhoeddwyd
dysgwyr y flwyddynFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2018 yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.

Steve Dimmick

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Steve Dimmick

O Flaina ym Mlaenau Gwent mae Steve Dimmick yn dod yn wreiddiol, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gan weithio fel cyfarwyddwr cwmni technolegol.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yn Llundain, ond mae'n dweud bod treulio wythnos ar gwrs iaith yn Nant Gwrtheyrn wedi newid ei fywyd.

Os oes un peth sy'n parhau i achosi trafferthion iddo, fodd bynnag, y ffaith bod gan y Gymraeg "ormod o fersiynau o'r gair yes" yw hwnnw!

Gallwch ddarllen mwy am Steve a'i ymdrechion i ddysgu Cymraeg drwy ddilyn y linc.

Yankier Perez

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Yankier Perez

Mae Yankier Perez yn dod o Giwba yn wreiddiol, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl iddo symud gyda'i wraig Lowri i fyw yng Ngwynedd.

Mae'n gweithio fel Technegydd Fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd, ac yn dweud ei fod wedi penderfynu dysgu'r iaith am ei bod yn rhan bwysig o'r gymuned leol.

Dydi o ddim yn ei chymryd hi'n "bersonol" pan mae pobl yn cywiro ei Gymraeg, meddai, gan ei fod yn ei weld fel "ffordd i ddysgu" yn well.

Gallwch ddarllen mwy am Yankier a'i ymdrechion i ddysgu Cymraeg drwy ddilyn y linc.

Matt Spry

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Matt Spry

Mae Matt Spry, sydd yn wreiddiol o Aberplym ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers rhyw dair blynedd bellach.

Fel rhan o'i waith i Brifysgol Caerdydd mae'n gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghaerdydd.

Mae ganddo sawl ysbrydoliaeth ar ei siwrne tuag at ddysgu Cymraeg, gan gynnwys ei diwtor cyntaf yn Llanrwst, ymgyrchwyr fel Cymdeithas yr Iaith, a bandiau fel y Super Furry Animals.

Gallwch ddarllen mwy am Matt a'i ymdrechion i ddysgu Cymraeg drwy ddilyn y linc.

Nicky Roberts

Disgrifiad,

Dysgwr y Flwyddyn 2018: Adnabod Nicky Roberts

Un o Gwm Rhondda yw Nicky Roberts yn wreiddiol, ond fe symudodd i Aberystwyth y llynedd er mwyn gallu byw ei fywyd yn y Gymraeg.

Cafodd ei ysbrydoli i ddechrau dysgu'r iaith wrth ddilyn Cymru yn Euro 2016, a theimlo "embaras" nad oedd yn medru ei siarad gyda'i gyd-gefnogwyr.

Er ei fod yn ystyried ei hun yn siaradwr rhugl bellach, mae'n dweud bod sylwadau gan bobl sy'n cywiro ei Gymraeg weithiau'n gallu "brifo mwy na mae'n helpu".

Gallwch ddarllen mwy am Nicky a'i ymdrechion i ddysgu Cymraeg drwy ddilyn y linc.

Bydd enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 8 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y beirniaid eleni yw Lowri Bunford Jones, Carole Bradley a Lowri Haf Cooke.