Fandaliaid yn 'difetha planhigion prin' ar Y Gogarth

  • Cyhoeddwyd
Graffiti ar y GogarthFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhan o'r graig ar Y Gogarth ei phaentio'n binc

Mae fandaliaid wedi dinistrio planhigion prin wrth baentio rhan o graig ar y Gogarth yn binc.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio am wybodaeth wedi i gennau a phlanhigion gwyllt eraill gael eu difetha ar y graig ger Llandudno yn Sir Conwy.

Mae'r safle cadwraeth yn un o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gyda geifr gwyllt hefyd yn byw ar y mynydd.

"Mae rhywun yn meddwl eu bod nhw'n glyfar ond maen nhw wedi dinistrio cennau a phlanhigion gwyllt eraill," meddai Tîm Troseddau Gwledig Heddlu'r Gogledd mewn neges ar Twitter.

"Mae gweithredoedd o'r fath yn niweidiol tu hwnt i ardal hynod warchodedig."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod y paent wedi difetha planhigion prin

Ychwanegodd warden parc dros Gyngor Sir Conwy ei bod hi'n "bechod" nad oedd rhai pobl yn "dangos parch" i fywyd gwyllt.

"Roeddwn i wedi fy syfrdanu pan wnaeth aelod o'r cyhoedd dynnu ein sylw ni at y peth," meddai.

"Mae'n sen ar yr olygfa, mae'r Gogarth yn un o'r prif lefydd yn y DU ble mae modd canfod y Cor-rosyn Lledlwyd prin, ac mae wedi cael ei baentio ynghyd a theim gwyllt, rhedyn, cennau a phlanhigion eraill."