'Siom' penderfyniad cau ysgol Talwrn ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol TalwrnFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd disgyblion Talwrn yn cael eu symud i Ysgol y Graig yn Llangefni

Mae ymgyrchydd ysgol blaenllaw wedi mynegi ei siom wedi i'r ymdrechion i achub un o ysgolion bach Ynys Mon fethu'r wythnos ddiwethaf.

Ar 16 Gorffennaf, cymeradwyodd Ynys Môn gynlluniau i gau Ysgol Talwrn a symud 43 disgybl ddwy filltir i Ysgol y Graig yn Llangefni.

Fe wnaeth cynghorwyr oedd yn gwrthwynebu'r cam gais i drafod y pendefyniad, ond mewn cyfarfod arbennig o'r pwyllgor craffu corfforaethol ddydd Iau, methodd cynnig i drosglwyddo'r penderfyniad i'r cyngor llawn , sy'n golygu y bydd y cynlluniau i gau'r ysgol yn mynd yn eu blaen.

'Pryder mawr'

Yn ôl Bethan Wyn Jones, un o arweinwyr yr ymgyrch i gadw Ysgol Talwrn ar agor, mae llawer o drigolion y pentref yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu trin yn deg.

"Mae pryder mawr ymhlith rhieni ynglŷn â'r ffordd rhwng Talwrn a Llangefni" meddai.

"Mae hon yn ffordd droellog, beryglus, ond fe gawson ni wybod sawl tro y byddai hyn yn cael ei drafod wedi i'r pendefyniad gael ei wneud. Does bosib ei bod hi'n rhy hwyr erbyn hynny?"

Ychwanegodd, "Cafodd dros 100 o lythyron yn gwrthwynebu eu hanfon o Talwrn, gyda dros 1,000 yn arwyddo deiseb.

"Rydym yn teimlo fod yr adroddiad wedi ei deilwra er mwyn gwthio'r achos dros gau Ysgol Talwrn ac nad yw'r darlun llawn wedi ei wneud yn glir."

Cwestiynu ffigyrau

Cwestiynodd hefyd ffigyrau'r awdurod ar ôl-groniad cynnal a chadw Ysgol Talwrn o £332,500.

O'r cyfanswm, roedd amcangyfrif o £250,000 ar stafell ddosbarth symudol.

"Gallech adeiladu tŷ am yr arian yna," ychwanegodd Mrs Jones.

"Cafodd ffigwr o £15,000 ei roi ar arwyneb newydd i fuarth yr ysgol a £10,000 ar arwyneb newydd ar faes parcio'r staff. Ond mae maes parcio'r staff lai nag wythfed maint y buardd, felly sut gall hyn fod yn gywir?"

"Unwaith eto, mae amheuon wedi codi dros y ffigyrau, sy'n gwneud i rywun amau popeth, ac yn bendant, dydyn ni ddim yn cytuno gyda safbwynt y cyngor ar safonau yn Ysgol Talwrn."

Costau

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, serch hynny, £3,972 yw cost cyfartalog pob disgybl ar yr ynys, sef y trydydd swm uchaf yng Nghymru.

Yn Ysgol Talwrn, mae £4,447 yn cael ei wario ar bob disgybl, tra mae £3,395 yw'r ffigwr yn Ysgol y Graig, gyda dadansoddiad cyllidol yn dangos fod Talwrn a'r Graig yn wynebu costau ol-groniad cynnal a chadw ar y cyd o £369,000, gyda'r posibilrwydd o gostau ychwanegol wrth i adeilad ysgol Talwrn ddod at ddiwedd ei oes.

Er i'r penderfyniad gael ei wneud fis diwethaf i gau'r ysgol, cafodd ymgyrchwyr obaith wedi i gynghorwyr alw am ailystyried y mater, can sicrhau cyfarfod arbennig o'r pwyllgor craffu corfforaethol i drafod y cais yn llawn.

Serch hynny, cafodd y cynnig i drosglwyddo'r mater i'r cyngor llawn ei wrthod o dair bleidlais i chwech.

Nododd y deilydd y portffolio addysg, y Cynghorydd Meirion Jones, fod hanner disgyblion Talwrn yn dod o'r tu hwnt i ffiniau'r ardal yn swyddogol, a bod cwestiynu'r cynlluniau'n achosi ansicrwydd o fewn y pentref.

Tra'n derbyn y byddau cau'r ysgol yn cael effaith ar y pentref, dywedodd: "Fedra i ddim gweld pwynt y cyfarfod hwn, gan ein bod wedi ymghyngori fwy nag unwaith gyda'r gymuned leol ac wedi cynnal sawl cyfarfod ac wedi dod i benderfyniad."