Buddugoliaeth i Cordina ond Johns yn colli
- Cyhoeddwyd

Cipiodd y bocsiwr o Gaerdydd Joe Cordina teitl Pwysau Ysgafn y Gymanwlad yn ei dre enedigol nos Sadwrn, trwy guro Sean Dodd.
Yng Nghanolfan Iâ Cymru ym Mae Caerdydd, enillodd Cordina, 26 oed, ei wythfed gornest o'r bron, a hynny 16 mis wedi iddo droi'n broffesiynol.
Ond doedd hi ddim cystal noson i'r bocsiwr MMA o Bontarddulais, Brett Johns.
Colli oedd ei hanes ym mhencampwriaeth yr UFC yn Atlantic City yn yr Unol Daleithiau.
Ar ei gyfrif Twitter, diolchodd am y negeseuon ewyllys da iddo, a llongyfarch ei wrthwynebydd Pedro Menhoz.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.