Georgia Davies yn ennill ei hail fedal aur i Team GB
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofiwr Georgia Davies wedi ennill ei hail fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop eleni ar ôl gorffen yn fuddugol yn y ras gyfnewid gymysg 100 metr nos Lun.
Davies, 27 oed, oedd y cyntaf o'r tîm i nofio gydag Adam Peaty, Freya Anderson a James Guy yn ei dilyn.
Dyma'r ail fedal aur iddi ennill yn y bencampwriaeth eleni yn dilyn ei buddugoliaeth yn y 50m dull cefn ddydd Sul.
Gorffennodd Davies y ras mewn 27.23 eiliad, y mymryn lleiaf yn arafach na'r record Ewropeaidd a osodwyd ganddi ddydd Sadwrn - 27.21.
Wrth ymateb i'r fuddugoliaeth honno dywedodd Davies: "Y fuddugoliaeth sy'n bwysig i mi, mae'r medalau yn bwysicach nac yr amseroedd ac felly rwy'n hapus dros ben."