Gŵyl cobiau Aberaeron yn coffáu diwedd y Rhyfel Byd
- Cyhoeddwyd
Bydd Gŵyl Merlod a Chobiau Cymreig Aberaeron yn cyflwyno pasiant ac arddangosfa arbennig ddydd Sul i i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac i ddathlu'r hen gysylltiadau rhwng Ceredigion a Llundain.
'Dod â'r Cobyn Cymreig Adref' yw prif thema'r Ŵyl sy'n cael ei chynnal ar y Cae Sgwâr yng nghanol tref Aberaeron.
Bydd y pasiant yn adrodd hanes y miloedd o Gardis a'u cobiau Cymreig a symudodd i Lundain yn yr 1800au a'r rhan a chwaraewyd ganddynt yn natblygiad y diwydiant llaeth yn Llundain.
Ceir blas ar fywyd y cobyn Cymreig yn Llundain a bydd rhai o'r cerbydau llaeth ynghyd ag offer masnachol eraill yn cael eu harddangos.
Mae'r ŵyl eleni yn cydnabod y rhan a chwaraeodd yr holl ferlod a'r holl gobiau Cymreig a ddefnyddiwyd fel ceffylau tynnu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd sylw hefyd i'r defnydd a wnaed o ferlod mynydd Cymreig yn y pyllau glo.
'Ysbrydoli cydweithio'
Dywedodd llefarydd ar ran yr ŵyl: "Rydym yn ddiolchgar i Cynnal y Cardi am y gefnogaeth a fydd yn ein galluogi i sicrhau bod Gŵyl 2018 yn un trawiadol.
"Mae'r prosiect 'Dod â'r Cobyn Cymreig Adref' wedi cael cefnogaeth LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi a ariennir drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru.
"Nod y prosiect yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Gardis i gydweithio ac i weithio mewn ffordd ragweithiol, wrth iddynt ddefnyddio eu hymdeimlad o hunaniaeth y maent wedi'i etifeddu neu ei fabwysiadu fel dynamig canolog er mwyn sicrhau llwyddiant."