Cyngor wedi'r canlyniadau

  • Cyhoeddwyd

Mae dydd Iau, 16 Awst yn ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch (Lefel A) ac i lawer bydd rheswm i ddathlu - ond mae'n anorfod y bydd rhai yn cael eu siomi.

Trwy lwc, mae 'na bobl wrth law i helpu disgyblion drwy'r broses gymhleth o benderfynu ar y cam nesa'.

Mae Aled James yn un o'r bobl hyn, ac fel pennaeth chweched dosbarth Ysgol Plasmawr, Caerdydd mae wedi gwneud hynny droeon. Ydy hi'n mynd yn haws neu'n anoddach?

Aled James
Disgrifiad o’r llun,

Aled James: "Rwy' wedi gweld pobl sydd yn llwyddo i gael dwy 'A' a 'B' sydd yn eu dagrau oherwydd bod nhw angen tair 'A'"

Mae'r ysgol yn cael gwybod ar y nos Fercher pa raddau mae'r disgyblion wedi cael, ac felly alla'i logio mewn i fy ngwefan UCAS a gweld yn union pa raddau sydd angen ar bawb a phwy sydd bendant wedi cael eu dewis ar gyfer prifysgol neu beidio.

Wedyn alla'i ddechrau mynd drwy'r rhestr a gweld pwy sydd mewn perygl o beidio cael eu dewis cyntaf... a phwy falle sydd mewn perygl o beidio cael eu cyntaf na'r ail ac felly mewn perygl o beidio cael lle o gwbl.

Mae rhai cynigion yn medru bod yn eithriadol o gymhleth.

Mi all dwy brifysgol roi graddau gwahanol, rhai yn derbyn y Fagloriaeth Gymreig, rhai ddim... rhai eisiau gradd mewn pwnc arbennig ayyb.

Bore'r canlyniadau

Am saith o'r gloch y bore, mae system UCAS yn dangos i mi'n union pwy sydd wedi cael eu derbyn ar eu dewis cyntaf neu ail.

Erbyn i'r ysgol agor ei drysau i'r disgyblion am wyth y bore, diwrnod y canlyniadau, bydd 'da fi syniad go dda pwy fydd angen cymorth neu beidio.

Mae'n rhaid pwysleisio, erbyn hynny, rhyw lond dwrn o ddisgyblion fydd yn chwilio am gymorth.

canlyniadau

Blwyddyn allan o addysg?

I'r rhai hynny sydd heb ennill lle yn eu dewis cyntaf na'r ail mae pobl yn ymateb yn wahanol.

Mae rhai'n cymryd cam yn ôl ac yn penderfynu efallai cymryd blwyddyn allan i feddwl dros y sefyllfa a phenderfynu wedyn.

Rwy' wedi gweld pobl sydd yn llwyddo i gael dwy 'A' a 'B' sydd yn eu dagrau oherwydd bod nhw angen tair 'A' ac wedi methu cael eu derbyn ar eu cwrs.

Mewn achosion fel hynny, un o'r pethau cyntaf sydd rhaid gwneud yw atgoffa nhw eu bod nhw wedi gwneud yn eithriadol o dda i gael dwy 'A' a 'B'!

Hyblygrwydd

Rwy' wedi gweld rhai ar ddiwrnod canlyniadau yn newid pwnc yn llwyr, yn cael gradd da mewn pwnc arall a phenderfynu mynd ar hyd y trywydd yna, felly mae'n amrywio o achos i achos ac o berson i berson.

Gyda phopeth ar-lein bellach, mae'n bosib i ddisgybl logio mewn i wefan UCAS a monitro eu cynigion ac os yw disgybl yn dewis, maen nhw'n medru logio mewn am wyth y bore i weld os ydyn nhw wedi cael eu derbyn neu beidio.

Roedd UCAS yn arfer rhyddhau'r wybodaeth i ddisgyblion am hanner nos, ond wrth gwrs, i'r rhai oedd heb gael eu derbyn yn syth, roedd oriau gyda nhw i aros wedyn tan fedru siarad â rhywun.

Yn aml felly, pan mae un o'r disgyblion hynny allai angen cymorth yn dod mewn drwy'r drws, maen nhw'n barod yn gwybod eu tynged ac am gymorth a chyngor ar beth yw'r cam nesaf.

Weithiau, mae rhai prifysgolion yn medru cymryd ychydig oriau i ddod i benderfyniad os yw'r disgybl gradd neu ddwy yn brin ac mae hynny'n medru achosi poen meddwl.

Bydd disgybl yn gallu disgwyl trwy'r dydd am benderfyniad sydd bach yn annheg gan fod hynny'n atal nhw weithiau rhag edrych ar opsiynau gwahanol tan ddiwedd y dydd.

line

Hefyd o ddiddordeb:

line

Dyna pam dydi'r broses glirio [sef y broses o geisio gweld pa lefydd sydd ar ôl mewn prifysgolion] ddim yn agor tan 15:00 ar y dydd Iau.

Mae hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion sydd bendant heb gael lle, i gysylltu gyda gwahanol brifysgolion er mwyn ceisio ffeindio lle ar gwrs tebyg, neu o bosib, yr un cwrs mewn prifysgol wahanol.

Beth sy'n bwysig yw bod nhw ddim yn rhuthro.

"Yn aml felly, pan mae un o'r disgyblion hynny allai angen cymorth yn dod mewn drwy'r drws, maen nhw'n barod yn gwybod eu tynged ."
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd

Fel gallwch ddychmygu, nid hawdd yw cysylltu â phrifysgol ar y ffôn ar ddiwrnod y canlyniadau, ond mae'n bwysig ceisio siarad â phrifysgol ble mae lle ar gael drwy glirio, i geisio sicrhau'r lle hynny.

Galwad ffôn a rhyw fath o gyfweliad cyflym, fel arfer, yw'r ffordd orau o wneud hynny.

Does dim rhaid penderfynu ar y diwrnod. Mae'n bosib cymryd diwrnod neu ddau i bendroni a dal dod o hyd i le ar gwrs da.

Cyngor a chymorth

Dyna fy rôl bennaf i ar ddiwrnod canlyniadau yw rhoi cyngor. Erbyn hynny, rwy'n nabod nhw [y disgyblion] ers rhyw saith mlynedd ac yn eu nabod yn eithaf da.

Weithiau byddai'n cynnig enghreifftiau iddyn nhw o bobl yn y gorffennol sydd yn yr un sefyllfa ac sydd wedi mynd ar hyd trywydd gwahanol neu efallai i brifysgol wahanol ac wedi diolch am hynny.

Hyd yn oed ar rai cyrsiau hynod boblogaidd, mae'n bosib ennill lle yn y pendraw.

Mwy nag un llwybr i lwyddiant

Weithiau mae hyd yn oed myfyriwr sydd wedi llwyddo i gael eu hail ddewis yn penderfynu mynd drwy'r broses clirio... rhag ofn fod rhywbeth gwell ar gael.

Mae'n bwysig pwysleisio taw ychydig iawn o enghreifftiau alla'i feddwl amdanyn nhw o rywun sydd efallai'n difaru mynd i'r brifysgol ar ôl mynd drwy'r broses glirio.

Dweud y gwir, y bobl sydd yn tueddu i adael y brifysgol yw'r rhai sydd yn ennill eu dewis cyntaf. Felly wir nawr, os fydd hyn yn digwydd, mae'n bell o fod yn ddiwedd y byd!

Weithiau mae'r pethau 'ma yn digwydd am reswm, ac mae'r rhan fwyaf yn hapus gyda'u penderfyniad yn y diwedd.