Dileu aelodaeth wedi sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Ymddiheuriad syml "diamwys" sydd ei angen, medd Dylan Foster Evans
Mae Pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi ei fod wedi dileu ei aelodaeth o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Dr Dylan Foster Evans ei fod yn teimlo nad ydy Llywydd Llys yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones wedi ymddiheuro yn ddiamod am y sylwadau wnaeth yn seremoni Cymru a'r Byd.
Cafodd Mr Lloyd Jones ei feirniadu am iddo ddweud wrth gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a'r Byd, i'r gynulleidfa - a rhestru'r llefydd amrywiol y bu'n gweithio - nad oedd yn "siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf".
Mae Mr Lloyd Jones yn dweud ei fod yn "siomedig" â phenderfyniad Dr Foster Evans.
Ymddiheuro
Ddydd Sul dywedodd Mr Lloyd Jones ei fod yn "ymddiheuro am unrhyw bryder neu loes a achoswyd yn anfwriadol gan sylwadau o'm eiddo yn seremoni Cymru a'r Byd".
Yn gynharach yn yr wythnos roedd wedi dweud nad oedd yn "derbyn o gwbl fod unrhyw awgrym yn yr hyn ddwedes i oedd yn hiliol".
Ond wrth drafod ei ymddiswyddiad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd y Dr Foster Evans nad oedd geiriad ymddiheuriad diweddaraf Mr Lloyd Jones yn ddigon.
"Yn anffodus, dydy o ddim yn ymddiheuro'n ddiamwys am y geiriau a ddywedwyd," meddai.
"Mae o'n ymddiheuro am unrhyw bryder sydd wedi ei achosi'n anfwriadol, ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi gweld mwy nag a fwriadwyd.
"Yr hyn sydd ei angen ydy ymddiheuriad syml am y geiriau eu hunain. Mae'r holl amodi ar hynny, yn anffodus, yn amhriodol, a dwi'n credu bod angen ymddiheuriad syml, a byddai hynny'n caniatáu i bawb i symud ymlaen."

Eifion Lloyd Jones yn siarad o lwyfan y brifwyl ym Mae Caerdydd
Ychwanegodd Dr Foster Evans nad oedd yn credu mai dyma fyddai diwedd y stori: "Yn anffodus, dwi ddim yn credu y bydd pawb yn symud ymlaen yr wythnos hon.
"Dwi 'di cymryd y cam hwn heddiw 'ma, ac am wn i, bydd 'na ragor o drafod a datblygiadau.
"Dwi'n gwybod bod Eifion Lloyd Jones yn rhywun egwyddorol iawn, ac sydd wedi ymladd yn gyson yn erbyn camwahaniaethu bob cyfle mae o wedi ei gael.
"Yn anffodus, dwi'n credu y tro hwn ein bod ni'n deall y sefyllfa mewn ffordd mor wahanol... dwi ddim yn gallu parhau yn aelod o'r llys, a dwi'n gobeithio bydd pobl yn ystyried hyn, ac yn gweld nad ydy rhoi ymddiheuriad syml diamod yn gofyn gormod."
'Siomedig'
Dywedodd Eifion Lloyd Jones ei fod yn "siomedig fod Dylan Foster Evans wedi ymddiswyddo ag yntau â chyfraniad mawr i'w wneud i Lys yr Eisteddfod".
Dywedodd ei fod wedi "anfon dwy neges ato'n esbonio'r sefyllfa ac yn dymuno arno i ailymaelodi yn fuan".
Ond ychwanegodd nad oedd yn credu y byddai dweud mwy na hynny o fudd i'r Eisteddfod ar hyn o bryd gan ei fod "eisoes wedi cyflwyno tri ymddiheuriad".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018