Criced T20: Morgannwg yn cael eu chwalu gan Sussex

  • Cyhoeddwyd
Tymal MillsFfynhonnell y llun, Lluniau Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe gipiodd Tymal Mills o Sussex dair o wicedi Morgannwg am ugain rhediad

Mae Morgannwg wedi colli yn erbyn Sussex Sharks yn y bencampwriaeth T20 yn Hove, gan roi eu gobeithion o gyrraedd rowndiau'r wyth olaf yn nwylo timau arall.

Ar ôl galw'n gywir, fe ddewisodd Morgannwg faesu.

Wedi dechrau eitha' da lle cipiodd Andrew Salter ddwy wiced, llwyddodd batwyr Sussex i adfywio gan sgorio cyfanswm o 186 am bum wiced.

Roedd y nod o 187 yn un heriol i Forgannwg, gyda llawer yn dibynnu ar eu batwyr cryfa' - Colin Ingram y capten yn bennaf.

Dechreuodd Craig Meschede ac Aneurin Donald yn wych i'r ymwelwyr gan sgorio 50 am y wiced gyntaf cyn i Rashid Khan gipio wiced Meschede.

A phum pelen yn ddiweddarach fe ddisgynnodd wiced Ingram am un rhediad yn unig, gan greu mynydd o dasg i Forgannwg.

Chwalwyd gêm y Dreigiau wedi hynny, gyda Rashid (3-9), Tymal Mills (3-20) a Chris Jordan (2-9) yn sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref gyda'u bowlio medrus, a Morgannwg felly'n colli o 98 rhediad.

Mae Sussex yn symud i'r pedwerydd safle, un pwynt o dan Morgannwg, a gyda un gêm mewn llaw.