'Diogelwch yn hollbwysig' medd trefnwyr Sioe Penfro

  • Cyhoeddwyd
Sioe Penfro

Mae trefnwyr Sioe Penfro'n dweud fod diogelwch yn hollbwysig iddyn nhw, wedi i geffyl dorri'n rhydd ac anafu nifer o bobl ddydd Mercher.

Cafodd wyth o bobl, yn cynnwys bachgen 12 oed, eu taro, ac fe gafodd pedwar o bobl eu cadw yn yr ysbyty dros nos.

Mae'r sioe dridiau yn parhau ddydd Iau, wrth i Gymdeithas Amaethyddol Sir Benfro ddweud eu bod yn bwriadu cynnal adolygiad i'r hyn ddigwyddodd.

Roedd y ceffyl yn cystadlu pan gafodd yr unigolyn oedd yn ei farchogaeth ei daflu oddi ar ei gefn, cyn i'r ceffyl neidio o'r cylch i'r dorf a rhwng y stondinau.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Ambiwlans Awyr ei alw i'r digwyddiad

Cafodd rhannau o safle'r sioe eu cau wedi'r digwyddiad, ac fe gafodd y ceffyl ei ddal.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro wrth BBC Cymru ddydd Iau fod "iechyd a diogelwch yn hollbwysig" iddyn nhw.

"Mae popeth yn ei le o bersbectif iechyd a diogelwch," meddai Jan Pearce.

Mae'r sioe yn denu tua 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

'Colli rheolaeth'

Roedd Richard Jones o Fridfa Menai ger Llandysul yn dyst i'r digwyddiad, ac yn un o'r rhai a geisiodd atal y ceffyl.

"Roedd y ceffyl wedi colli rheolaeth yn llwyr," meddai Mr Jones ar raglen Y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher.

"Roedd e'n dod tuag at fynediad y prif gylch, ac er gwaetha ymdrechion gorau'r prif stiwardiaid i gadw'r ceffyl o fewn y prif gylch, ofer oedd hynny.

"Aeth y ceffyl drwy dyrfa'r cyhoedd. 'Dych chi ddim yn disgwyl i rywbeth fel 'na i ddigwydd."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhannau o safle'r sioe eu cau wedi'r digwyddiad

Cafodd nifer o bobl driniaeth yn y fan a'r lle i'w hanafiadau, ac fe dreuliodd pedwar o bobl y noson yn yr ysbyty.

"Roedd e'n geffyl 15 llaw, a pan mae gyda chi hanner tunnell o geffyl yn dod tuag atoch chi, dyw hi ddim yn edrych yn dda," meddai Mr Jones.

"Ro'n i ymysg lot o bobl oedd â bach mwy o brofiad gyda cheffylau i helpu.

"Roedd yr ambiwlans a staff y sioe yn tendio at y cleifion - pob un â'i waith, a gath e ei ddatrys yn eitha' disymwth o ystyried."