Cyflwyno archeb gwerth £800m ar gyfer trenau newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tren newydd KeolisAmeyFfynhonnell y llun, KeolisAmey

Mae cwmni KeolisAmey wedi cyflwyno archeb gwerth £800m ar gyfer trenau newydd Cymru, fydd yn "hirach a thawelach".

Y gobaith yw cyflwyno'r 71 trên, fydd hefyd â system aerdymheru a soced i bob teithiwr, erbyn 2022.

Stadler, cwmni rheilffyrdd o'r Swistir, sydd wedi ennill cytundeb i adeiladu bron i hanner y 148 o drenau sydd wedi cael eu haddo i Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau erbyn 2023.

Ym mis Mai eleni, enillodd KeolisAmey gytundeb £5bn i ddarparu gwasanaeth ar y rheilffyrdd yng Nghymru a Metro De Cymru am 15 mlynedd.

Bydd bron i hanner y trenau'n cael eu hadeiladu gan gwmni CAF o Sbaen mewn ffatri newydd yng Nghasnewydd.

Yn ogystal, bydd KeolisAmey yn creu 600 o swyddi'n ychwanegol i'r 2,200 sy'n cael eu trosglwyddo o gwmni Trenau Arriva Cymru.

Maen nhw hefyd yn awyddus i foderneiddio 247 o orsafoedd ac adeiladu pedair gorsaf fach yng Nghaerdydd fel rhan o'r cynllun metro.

Ffynhonnell y llun, KeolisAmey
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cerbydau llai, tebycach i dramiau, yn cael eu cyflwyno ar gyfer llinell Metro De Cymru

Dywedodd KeolisAmey y bydd 95% o deithiau yn digwydd ar drenau newydd o fewn pum mlynedd.

Maen nhw hefyd wedi archebu 35 trên rhanbarthol - gyda thri neu bedwar cerbyd - a 36 tram tri-cherbyd.

Bydd y tramiau'n teithio rhwng Caerdydd, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful ac yn gallu cael eu pweru gan drydan neu fatri.

Bydd 11 o'r trenau rhanbarthol yn rhai diesel ac yn rhedeg rhwng Maesteg, Glynebwy a Cheltenham.

Bydd y 24 trên rhanbarthol arall - fydd yn cael eu cyflwyno yn 2023 - yn gallu rhedeg ar ddiesel, drwy wifrau trydan uwch eu pennau neu gyda batri.

Mae Stadler wedi addo y bydd eu trenau "tawelach" yn "hirach, gyda mwy o seddi", ac y bydd hefyd system aerdymheru, mynediadau hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a phramiau, lle i hyd at chwe beic ar bob trên, a soced wrth bob sedd.

Yn ôl Colin Lea, o KeolisAmey Cymru, bydd hyn yn "trawsnewid profiad y teithiwr, a'n galluogi i bweru 100% o gledrau'r Cymoedd sydd i'r gogledd o Gaerdydd gyda thrydan".

Dywedodd Mr Lea: "Bydd y pŵer yn dod o ynni adnewyddadwy a 50% o'r ynni yna o Gymru.

"Bydd y trenau newydd yn ein cynorthwyo i gwtogi amseroedd teithio, darparu mwy o le i deithwyr, ac yn rhoi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg 'trydaneiddio clyfar'."