Caerdydd yn gwneud 'cyflafan' o'i threftadaeth

  • Cyhoeddwyd
Heol y Santes FairFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae "cyflafan" yn digwydd ar dreftadaeth Caerdydd oherwydd methiant y ddinas i ddefnyddio adeiladau hanesyddol i ddenu ymwelwyr, medd arbenigwr.

Mae'r arbenigwr marchnata Roger Pride yn galw am "ddefnydd creadigol" o fannau o ddiddordeb pensaernïol, gan gynnwys nifer o safleoedd ar Heol y Santes Fair.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn pwyso a mesur ceisiadau cynllunio ar adeiladau'r ddinas yn unigol.

Daw rhybudd Mr Pride wrth i nifer o fwytai newydd symud i'r ardal, gyda chanolfan newydd yn cael ei hadeiladu ar Heol yr Eglwys.

Mwy o fariau a bwytai

Mae nifer y safleoedd trwyddedig yn y brifddinas wedi codi 20% ers 2013, ac mae digwyl i'r ffigwr barhau i gynyddu.

"Dros y blynyddoedd, mae Caerdydd wedi colli gormod o adeiladau sydd â gwir gymeriad," meddai Mr Pride.

"Mae'n rhaid i'r gyflafan ar dreftadaeth ddod i ben."

Ffynhonnell y llun, FOR Cardiff
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig gwneud y mwyaf o arcedau'r ddinas, medd Mr Pride

Dywedodd yr hanesydd Bill Jones fod y ddinas yn cael ei siapio ar gyfer cynnal digwyddiadau mawr, a'r cynnydd yn nifer y myfyrwyr yn y ddinas.

Bydd bar coctels, bwyty Indiaidd a bwyty Fietnamiaidd yn agor ar Heol yr Eglwys, tra bod cynlluniau tebyg ar gyfer safle bragdy Brains.

"Mewn byd sydd fwyfwy wedi homogeneiddio, mae dinasoedd llwyddiannus yn dangos eu cymeriad a'r hyn sydd yn eu cadw ar wahân," yn ôl Mr Pride.

"Yn fy marn i, mae hi'n bwysig fod yna fusnesau annibynnol a brandiau unigryw yn hytrach na bwytai a thafarndai cadwyn.

"Mae'n rhaid defnyddio'n hadeiladau mewn ffordd greadigol."

Dywedodd Eleri Rosier, arbenigwr marchnata o Brifysgol Caerdydd, fod tafarndai yn gyffredinol yn dirywio, ond y bydd bwytai cadwyn yn cael eu denu fwyfwy i Gaerdydd.

"Mae Llundain yn parhau i reoli diwydiant bwyta ac yfed y DU, ond mae rheolwyr yn edrych am gyfleoedd i ehangu i ddinasoedd eraill."

Ychwanegodd: "Mae Caerdydd, Leeds a Lerpwl wedi gweld eu cyflenwad o safleoedd trwyddedig yn cynyddu o fwy nag 20% dros y pum mlynedd diwethaf."

Dywedodd Dr Rosier y gall prisiau Llundain arwain at dwf pellach o 20% yn y blynyddoedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, RIGHTACRES PROPERTY

Mae ymchwil gan felin drafod Centre for Cities yn awgrymu fod 10% o fusnesau Caerdydd yn gwerthu bwyd a nwyddau hamdden, o'i gymharu â 9% yn Newcastle, dinas debyg ei maint a'i strwythur.

Er bod hyn yn uwch na'r cyfartaledd drwy'r DU, maen nhw'n denu siopwyr posib i'r ddinas, medd Anthony Breach o'r felin drafod.

"Er bod hyn yn ymddangos fel petai gormod o'r farchnad bwytai, mae nhw'n gwrthsefyll cystadleuaeth o'r we," meddai.

"Dylai datblygiadau mawr fel y Sgwar Canolog ddod â miloedd o weithwyr i'r canol i gefnogi busnesau eraill."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod adnewyddu'r Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd yn enghraifft o'r modd mae'r awdurdod wedi cydweithio gyda chwmni i ddod ag adeilad hanesyddol yn ôl yn fyw.