Ailenwi'r Felodrôm Cenedlaethol ar ôl Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd Felodrôm Cenedlaethol Cymru yn cael ei ailenwi ar ôl enillydd y Tour de France, Geraint Thomas.
Dywedodd y cyngor bod y seiclwr wedi derbyn eu cynnig i ailenwi'r ganolfan yn Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.
Ym mis Gorffennaf, fe wnaeth Thomas sicrhau ei le yn y llyfrau hanes fel y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn hanes 105 mlynedd y ras.
Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Thomas: "Mae'n anrhydedd enfawr cael y felodrôm wedi'i ailenwi ar fy ôl - dydw i ddim yn gallu credu'r peth a bod yn onest!
"Mae'r felodrôm wedi chwarae rhan allweddol yn fy stori seiclo i ac mae'n parhau i chwarae rhan allweddol yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o seiclwyr yn ne Cymru.
"Rydw i eisiau diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr ailenwi ac rwy'n edrych ymlaen i weld pawb ar gyfer yr ailagoriad swyddogol."
Roedd miloedd o bobl ar strydoedd Caerdydd yr wythnos ddiwethaf i groesawu Thomas yn ôl i Gymru wedi ei fuddugoliaeth hanesyddol.
Wedi iddo ennill y Tour de France roedd rhai swyddogion yn Sir Gâr hefyd wedi dweud y dylai felodrôm newydd Caerfyrddin gael ei ailenwi ar ôl y gŵr o Gaerdydd.
Bydd Thomas yn ymweld â Chasnewydd fis nesaf wrth i gymal gyntaf y Tour of Britain orffen yn y ddinas.
Mae Thomas wedi hyfforddi yn y felodrôm yn y gorffennol, gan gynnwys cyn Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 ble enillodd ei ail fedal aur Olympaidd, a chyn iddo ennill aur dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014.
Dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox eu bod eisiau "dangos ein gwerthfawrogiad o gyflawniad aruthrol Geraint".
"Mae Geraint wedi bod yn ymwelydd cyson i Felodrôm Cenedlaethol Cymru ers iddo agor yn 2003 ac mae wedi siarad am yr hyn mae'n ei olygu iddo, felly mae'n addas iawn bod Casnewydd yn cyflwyno'r anrhydedd yma iddo," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018