Pencampwriaeth y Siroedd: Morgannwg allan am 154
- Cyhoeddwyd

Roedd Morgannwg allan am 154 rhediad ar ddiwrnod cyntaf eu gêm erbyn Durham ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Sul.
Llwyddodd Kiran Carlson, Ruaidhri Smith a David Lloyd i sgorio dros 30 rhediad yr un, ond nid oedd yn ddigon i rwystro bowlio effeithiol Durham.
Fe gipiodd Chris Rushworth a Matt Salisbury dair wiced yr un i'r ymwelwyr, cyn i'r troellwr Axar Patel hawlio'r ddwy olaf ar Erddi Soffia.
Cyrhaeddodd Durham gyfanswm o 75 rhediad heb golli wiced ar ddiwedd y chwarae.
Targed yr ymwelwyr ar gyfer ail ddiwrnod y chwarae yw 79 rhediad, gyda 10 wiced yn weddill.

Morgannwg: Selman, Murphy, Brown, Carlson, Lloyd, Cooke, Meschede, Salter, Smith, Carey, Hogan.
Durham: Steel, Lees, Smith, Clark, Collingwood, Harte, Richardson, Poynter, Patel, Coughlin, McCarthy, Salisbury, Rushworth.