Oes 'na ddigon o e-lyfrau Cymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mae'n siŵr mai'r Eisteddfod Genedlaethol yw'r wythnos brysuraf o ran prynu a gwerthu llyfrau Cymraeg.
Yn flynyddol, mae pobl yn gadael yr ŵyl â sacheidiau o lyfrau Cymraeg hen a newydd, o bob genre, ac wrth gwrs, rhai o'r llyfrau sydd wedi ennill y prif wobrau.
Ond mae rhai wedi bod yn holi ble mae'r fersiynau digidol o'r llyfrau yma.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ers i Amazon greu ei ddarllenydd digidol cyntaf, y Kindle yn 2007, mae prynu llyfr newydd mor hawdd a chyflym â chlicio botwm.
Fodd bynnag, mae nifer yr e-lyfrau Cymraeg ar gael yn sylweddol is na'r rhai Saesneg, ac mae nifer yn anhapus.
Felly beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?
Rôl Cyngor Llyfrau Cymru
Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru
Y gweisg sydd yn penderfynu. Maen nhw'n gwneud asesiad o ba lyfrau i'w cyhoeddi fel e-lyfrau - nhw yw'r arbenigwyr wedi'r cyfan, a dyna eu crefft.
Does dim un ateb gan y sector yn gyffredinol o ran diwydiant e-lyfrau. Mae mwyafrif y gweisg yn dweud nad oes yna lawer o alw amdanyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni'n frwd fod e-lyfrau yn cael eu creu, achos rydyn ni eisiau amrywiaeth i'r darllenwyr.
Mae gwerthiant e-lyfrau Saesneg yng Nghymru yn gwbl wahanol i werthiant rhai Cymraeg, ac yn llawer uwch. Disgwyliad yr awduron yw fod e-lyfrau hefyd yn cael eu cynhyrchu, achos mai dyna mae'r farchnad Saesneg yn ei wneud.
Mae'r rheswm dros y penderfyniad yn y farchnad Gymraeg yn wahanol, achos fod y farchnad yn wahanol. Mae llawer yn meddwl y dylai yr un peth ddigwydd yn y ddwy iaith, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n anghywir i gymharu'r ddau fel yma.
Mae gan y gweisg lawer o arbenigaeth i asesu'r farchnad a'r potensial, ac mae'n well fod y Cyngor yn ymddiried ynddyn nhw i wneud y penderfyniad cywir, gan gynnig cefnogaeth ariannol lle bod angen.
Safbwynt y gweisg
Cathryn Ings, Swyddog Marchnata Gwasg Gomer
Mae Gomer yn cyhoeddi dros hanner cant o e-lyfrau sydd ar gael i'w prynu a'u lawrlwytho o'n gwefan neu oddi ar Gwales.com.
Y tueddiad ers rhai blynyddoedd yw i'r galw amdanynt leihau.
Ein teimlad fel cyhoeddwr yw mai mabwysiadwyr cynnar o dechnoleg oedd yn gyrru gwerthiant yr e-lyfrau, yn hytrach na'r bobl oedd yn hoffi'r profiad o ddarllen a chydio mewn llyfr.
Rydym yn adolygu'n cynlluniau i greu e-lyfrau yn gyson ar sail apêl bob cyfrol unigol.
Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa
Rydyn ni wedi cynhyrchu rhyw 450 o e-lyfrau erbyn hyn, ac mae'n siŵr fod rhyw ddau draean o'r llyfrau ry'n ni'n eu hargraffu, hefyd ar gael fel e-lyfrau.
Mae gwerthiant e-lyfrau wedi arafu dipyn dros y flwyddyn neu ddwy ddiwetha'. Ond rydyn ni'n parhau i'w creu. Er fod y gwerthiant wedi arafu, mae dal galw am e-lyfrau Cymraeg.
Rydw i'n credu eu bod yn bwysig eu bod ar gael. Mae'n ffordd i bobl sydd yn byw tu fas i Gymru i gael copi o lyfr, neu bobl sy'n byw yn bell o siop lyfrau Cymraeg. Ac ry'n ni hefyd yn cyrraedd pobl newydd.
Fel arfer, ry'n ni'n eu gwneud nhw rhyw bythefnos i fis ar ôl gwneud y fersiwn papur. Y rheswm pennaf am hynny, yw ein bod ni eisiau rhoi cyfle i siopau llyfrau Cymraeg eu gwerthu gyntaf, sef prif ffynhonnell gwerthiant llyfrau Cymraeg.
Wrth gwrs, mae elfen arall pam fod oedi cyn cynhyrchu fersiynau digidol o lyfrau sydd wedi ennill gwobrau, sef bod angen sicrhau cyfrinachedd, felly does dim modd llwytho'r e-lyfr ymlaen llaw.
Ond mae llyfrau buddugol yr Eisteddfod eleni ar y ffordd - byddan nhw ar gael erbyn canol Medi.
Myrddin ap Dafydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Carreg Gwalch
Dydyn ni ddim yn cynhyrchu e-lyfrau.
Rydym wedi bod yn dilyn y farchnad yn ofalus o'r dechrau. Doedd y costau ychwanegol ddim yn cael eu had-dalu gan y gwerthiant pitw ar y dechrau - ac mae pethau wedi mynd yn waeth ers hynny.
Rydym yn gorfod rhedeg y wasg fel busnes - yn union fel y mae Waterstones yn rhedeg eu siop (maen nhw wedi tynnu eu cownteri e-lyfrau o'u siopau ers rhyw 18 mis).
Wyth mlynedd yn ôl y darogan oedd y byddai e-lyfrau yn 80% o'r farchnad lyfrau erbyn 2018. Ond mewn realiti mae'n llai nac 20%.
Mae'n debyg bod cymaint o bobl yn defnyddio cyfrifiaduron yn eu gwaith ac yn gymdeithasol - maen nhw eisiau 'gorffwys' oddi wrth y taclau wrth hamddena, ac mae apêl y llyfr yn gryfach nag erioed.
Hefyd o ddiddordeb: