Cyhoeddwyr cyfrolau yn gwrthod ffigyrau gwerthiant

  • Cyhoeddwyd
Llyfr y Flwyddyn 2017
Disgrifiad o’r llun,

Roedd naw llyfr ar y Rhestr Fer Gymraeg a naw ar y Rhestr Fer Saesneg

Mae cyhoeddwyr wedi anghytuno gyda ffigyrau swyddogol o werthiant eu llyfrau ar ôl i ddata awgrymu nad oedd yr un o gyfrolau rhestr fer Llyfr y Flwyddyn wedi gwerthu dros 200 o gopïau.

Mae rhai awduron a chyhoeddwyr yn dweud nad yw'r ffigwr sydd wedi ei gofnodi gan Nielsen yn ystyried gwerthiant mewn siopau bach neu ddigwyddiadau dros dro.

Dydy gwerthiant mewn siopiau annibynnol, neu mewn lawnsiadau ddim yn cael eu cofnodi ar ddata swyddogol Nielsen.

Roedd y data yna'n awgrymu bod bron i hanner y llyfrau ar y rhestrau byr yn y ddwy iaith wedi gwerthu llai na 100 copi.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Y Lolfa bod pob un o lyfrau'r cyhoeddwr ar y rhestr fer wedi gwerthu dros 600 copi a bod gwerthiant yn "dda iawn".

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Cwmni rhyngwladol Nielsen sy'n gyfrifol am gasglu data ar werthiant llyfrau, ac mae ei ffigyrau yn dangos holl werthiant y llyfrau ar y rhestr fer hyd at 20 Mehefin 2018.

Y ffigwr gwerthiant uchaf yn Gymraeg oedd 196, ac yn Saesneg wnaeth y llyfr fwyaf llwyddiannus werthu bron i 4,000 o gopïau.

Ond dydy'r ffigyrau ddim o reidrwydd yn adlewyrchu pob copi sydd wedi ei werthu, er enghraifft gan rai siopau bach neu ddigwyddiadau dros dro.

'Gwerthiant yn dda iawn'

Mae rhai cyhoeddwyr bellach wedi cwestiynu data swyddogol Nielsen.

Dywedodd Garmon Gruffudd, rheolwr gyfarwyddwr Y Lolfa: "Mae pob un o lyfrau Y Lolfa ar y rhestr fer wedi gwerthu dros 600 copi, ac ry' ni wedi ail-argraffu tri ohonyn nhw - Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Blodau Cymru a Gwales yn barod.

"Mae'r gwerthiant wedi bod yn dda iawn o'n safbwynt ni."

Ychwanegodd ei fod o'r farn nad oedd "y rhan fwyaf o werthiant siopau llyfrau Cymraeg" yn cael ei gofnodi ar systemau Nielsen.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Yn ôl data Nielsen, un o'r llyfrau Saesneg oedd wedi gwerthu'r nifer isaf o gopïau, sef yr 20 copi o lyfr Lloyd Markham - Bad Ideas \ Chemicals.

Ond dywedodd y cyhoeddwr, Parthian, bod nifer uwch o gopïau wedi eu gwerthu nac y mae'r data yn ei awgrymu.

Yn Gymraeg, llyfr Hefin Wyn, Ar Drywydd Niclas y Glais, oedd wedi gwerthu'r lleiaf, sef 43 o gopïau.

Y llyfrau mwyaf llwyddiannus yn y ddwy iaith ydy bywgraffiad am yr artist a'r bardd David Jones, a werthodd bron 4,000 o gopïau, ac yn Gymraeg casgliad o farddoniaeth Peredur Lynch, Caeth a Rhydd, sydd â'r cyfanswm uchaf hyd hyn ar ôl gwerthu 196 o gopïau.

'Dim bwriad camarwain'

Mae'r BBC Cymru wedi ei beirniadu am ddefnyddio ffigyrau Nielsen fel sail i'w herthygl.

Mewn ymateb i hynny, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Tra bo'r data a ddefnyddwyd wedi dod o ffynhonnell gydnabyddedig o fewn y diwydiant, rydym yn derbyn nad oedd yn adlewyrchu'r darlun llawn o ran gwerthiant.

"Nid oedd bwriad i gamarwain.

"Bwriad yr eitem oedd trafod dyfodol y diwydiant, a gwnaed hynny tra'n adlewyrchu Noson Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn."

'Gweithio gyda'n gilydd'

Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: "Mae'n amlwg ni'n gobeithio bod bod ar y rhestr fer yn gallu cael rhyw fath o ddylanwad ar werthiant.

"Mae'n dibynnu weithiau ar y cyfnod sydd rhwng datgan y rhestr fer a'r seremoni ei hunan a hefyd pa ddigwyddiadau, pa fentrau gellith eu cael yng nghanol y cyfnod hwn, er enghraifft gwyliau neu ymddangosiadau mewn cymdeithasau.

"Fi yn credu y gallen ni i gyd weithio gyda'n gilydd tipyn yn fwy yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod y rhestr fer yn cael mwy o sylw a hefyd adeiladu ar y sylw gwych mae'r seremoni a'r enillwyr eu hunain yn cael."

Ychwanegodd: "Gwerth diwylliannol yw e yn y pen draw.

"Mae'n bwysig bod gweisg fel Y Lolfa ac awduron fel Goronwy Wynne yn cael rhyw fath o gynhaliaeth mas o'i gwaith nhw, yn ogystal â hyn.

"Ond rwy'n credu mai gwaith oes yw hwn [llyfr Goronwy Wynne], ac rwy'n edrych ymlaen i'r gyfrol hon fynd trwy sawl gwahanol argraffiad, ac y byddai pobl mewn degawdau i ddod yn mwynhau y gyfrol."

Ffigyrau gwerthiant llyfrau(Data Nielsen)

Ffigyrau hyd at 20 Mehefin 2018:-

Y rhestr fer - Cymraeg

Gwobr Farddoniaeth:

  • Llif Coch Awst - Hywel Griffiths - 78

  • Treiglo - Gwyneth Lewis - 61

  • Caeth a Rhydd - Peredur Lynch - 196

Gwobr Ffuglen:

  • Gwales - Catrin Dafydd - 133

  • Fabula - Llyr Gwyn Lewis - 61

  • Hen Bethau Anghofiedig - Mihangel Morgan - 124

Gwobr Ffeithiol Greadigol:

  • Ar Drywydd Niclas y Glais - Hefin Wyn - 43

  • Blodau Cymru - Byd y Planhigion - Goronwy Wynne - 123

  • Meddyginiaethau Gwerin Cymru - Ann Elisabeth Williams - 56

Y rhestr fer - Saesneg

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias:

  • The Mabinogi - Matthew Francis - 1,094

  • Diary of the Last Man - Robert Minhinnick - 202

  • All Fours - Nia Davies - 38

Gwobr Ffuglen:

  • Hummingbird - Tristan Hughes - 1,115

  • Lightswitches Are My Kryptonite - Crystal Jeans - 49

  • Bad Ideas\Chemicals - Lloyd Markham - 20

Gwobr Ffeithiol Greadigol:

  • Icebreaker: A Journey Far North - Horatio Clare - 3,635

  • David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet - Thomas Dilworth - 3,962

  • All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas - M. Wynn Thomas - 34

Mae siopau llyfrau annibynnol wedi derbyn £100 gan Gyngor Llyfrau Cymru i hybu'r llyfrau ar y rhestrau byr eleni.

Dywedodd perchennog siop lyfrau Octavo's ym Mae Caerdydd, Hazel Cushion, ei bod yn croesawu'r cymorth ariannol ond bod angen gwneud mwy i farchnata'r llyfrau.

"Mae'n rhaid cofio nad ydy'r mwyafrif o lyfrau Cymreig, wedi'u cyhoeddi gan y gweisg Cymreig, yn gwerthu mewn niferoedd uchel.

"Serch hynny, fy marn i yw bod angen codi'r proffil, er mwyn i bobl eu hadnabod nhw. Y ffordd orau posib yw trwy bobl yn eu hargymell nhw, ar lafar.

"Felly os oedd modd gweithio gyda grwpiau darllen, efallai'n cyhoeddi darnau o'r llyfrau mewn papurau newydd, fyddai pethau fel 'na yn rhoi mwy o gyfleoedd i ni ddod â phobl mewn i gysylltiad â'r llyfrau."

'Ddim yn digalonni'

Mae Ms Cushion hefyd yn rhedeg cwmni cyhoeddi Accent Press, ac mae'n rhybuddio yn erbyn digalonni am y ffigyrau gwerthiant.

Dywedodd: "Dydy pob siop lyfrau ddim yn adrodd i Nielsen, yn sicr dydy nifer o'r siopau bach Cymreig ddim yn gwneud hynny. Rydyn ni yn, ond dydy pawb ddim.

"Hefyd, mae nifer o lyfrau yn cael eu gwerthu yn uniongyrchol mewn digwyddiadau arbennig ag ati, felly dydw i ddim yn meddwl dylai pobl digalonni gormod os ydy'r ffigyrau'n ymddangos yn weddol isel."

Yn dilyn cyhoeddi'r stori yn wreiddiol mae'r gweisg isod wedi dod yn ôl atom gyda diweddariad ar werthiant y llyfrau gafodd eu henwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn.

Dyma'r rhestr o werthiannau hyd Mehefin 2018:

Barddoniaeth

  • Treiglo - Gwyneth Lewis (Barddas) - 514

  • Llif Coch Awst - Hywel Griffiths (Barddas) - 604

  • Caeth a Rhydd - Peredur Lynch (Carreg Gwalch) - 665

Ffeithiol greadigol

  • Blodau Cymru - Goronwy Wynne (Y Lolfa) - 868

  • Meddyginiaethau Gwerin Cymru - Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa) - 686

  • Ar Drywydd Niclas y Glais - Hefin Wyn (Y Lolfa) - 628

Ffuglen

  • Hen Bethau Anghofiedig - Mihangel Morgan (Y Lolfa) - 901

  • Gwales - Catrin Dafydd (Y Lolfa) - 1018

  • Fabula - Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa) - 643

Rydym yn derbyn nad oedd yr esboniad a'r cyd-destun a roddwyd yn yr erthygl wreiddiol yn ddigonol, ac rydym wedi ymddiheuro am hynny.