Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Tywyn

  • Cyhoeddwyd
car

Mae'r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Tywyn, Gwynedd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd - Land Rover gyda threlar, car Vauxhall Corsa lliw arian a Ford Focus du - am 11:01 ddydd Llun ar y B4405 yn Nhal-y-llyn.

Dywedodd Sarjant Trystan Bevan o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Yn anffodus bu farw'r ddynes oedd yn teithio yn y Corsa yn y fan a'r lle, ac fe gafodd y gyrrwr gwrywaidd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth."

Ychwanegodd: "Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn digwydd bod ar y ffordd tua adeg y digwyddiad ac a welodd y gwrthdrawiad."

Dylai unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod W118044. Maen nhw'n arbennig o awyddus i gael gafael ar unrhyw luniau o gamerâu 'dashcam' o'r digwyddiad.