Llywodraeth Cymru i wario £5m ar uwchraddio pontydd

  • Cyhoeddwyd
Pont Hafren M48Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd £5m yn cael ei wario ar uwchraddio rhai o bontydd Cymru yn dilyn y trychineb diweddar yn Genoa, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daw hynny wedi iddi ddod i'r amlwg nad yw 39 o'r 1,263 pont sydd dan reolaeth ganolog yn cydymffurfio â safonau presennol.

Er bod y llywodraeth yn addo dysgu o'r digwyddiadau diweddar, maen nhw wedi pwysleisio fod y pontydd hyn yn ddiogel i yrwyr.

Dywedodd Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru y dylai cwymp Pont Morandi, a laddodd 43 o bobl, sbarduno buddsoddiad mewn isadeiledd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nad yw dyluniad pontydd Cymru yn debyg i'r un yn Genoa, ond cafodd cannoedd ohonynt eu codi yn yr un cyfnod gan ddefnyddio concrit a dur - a all fod mewn peryg o rydu.

Sbarduno newid

Dywedodd y llywodraeth bod archwiliadau cyffredinol o bontydd yn digwydd pob dwy flynedd.

Dangosodd adroddiad gan sefydliad yr RAC ym mis Ionawr fod 361 o bontydd dan ofal cynghorau lleol yn is na'r safon, a byddai cost o £98m er mwyn sicrhau eu bod nhw mewn cyflwr "da, os nad perffaith".

Dywedodd Keith Jones, cyfarwyddwr Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru fod gan wleidyddion "benderfyniad anodd" i'w wneud.

"Ydych chi'n blaenoriaethu ysgol sy'n dymchwel, to llyfrgell, gwasanaethau cyhoeddus neu barhau gyda gwaith cynnal a chadw ar bontydd?" meddai.

"Yn dilyn y trychineb yn Genoa, dwi'n meddwl y dylai hyn sbarduno rhywbeth sy'n sicrhau fod y cyhoedd yn ymwybodol o'r angen ar gyfer buddsoddiad yn yr isadeiledd y mae ein bywydau ni'n ddibynnol arno."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 43 o bobl eu lladd wedi i Bont Morandi yn Genoa gwympo yr wythnos diwethaf

Mae modd parhau i ddefnyddio pontydd sydd yn is na'r safon, ond mewn rhai achosion byddai angen gosod cyfyngiadau pwysau er mwyn sicrhau diogelwch.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ganddyn nhw gynrychiolaeth ar Fwrdd Pontydd y DU - lle bydd cwymp Pont Morandi yn cael ei drafod - yn ogystal â'r camau nesaf sydd angen eu cymryd.

"Mae gan Lywodraeth Cymru broses archwilio fanwl ar gyfer pob un o'u hadeiladau, gan ystyried y cynllun, oedran a'u hanghenion cynhaliaeth," meddai llefarydd.

"Mae archwiliadau cyffredinol pob dwy flynedd, gyda rhai manylach bob chwe blynedd... gallwn sicrhau gyrwyr a defnyddwyr eraill o'r ffyrdd mai diogelwch yw, a wastad fydd, ein blaenoriaeth."