'Dylai'r Drycin Manaw fod yn aderyn cenedlaethol Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Drycin Manaw
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 300,000 par o'r Drycin Manaw yn paru ar ynys Sgomer

Dylai'r Drycin Manaw fod yn aderyn cenedlaethol Cymru, yn ôl un warden sy'n gweithio i elusen gwarchod bywyd gwyllt.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru wedi cynnal y cyfrifiad cyntaf o boblogaeth yr adar ar Ynys Sgomer ers dros ddegawd.

Mae Sgomer, sydd oddi ar arfordir Sir Benfro, yn gartref i dros hanner poblogaeth y byd o adar y Drycin Manaw yn ystod y gwanwyn a'r haf.

Bwriad yr ymchwil yw darganfod mwy am eu hymddygiad a'u harferion nhw - gyda'r elusen yn dadlau y gallai'r rhywogaeth ddatgelu llawer ynglŷn â chyflwr ein moroedd.

Disgrifiad,

'Sgomer yw'r lle i weld y Drycin Manaw'

Mae dros 300,000 o barau yn magu ar yr ynys, ond dydyn nhw ond yn dychwelyd i fwydo'u cywion yn eu nythod tanddaearol unwaith i'r haul fachlud, er mwyn osgoi gwylanod.

Mae'r adar yn greaduriaid lletchwith, felly mae'r ynys yn berffaith iddynt - ar y tir mawr, fyddai sawl anifail yn gallu ymosod arnynt.

Does dim ysglyfaethwyr fel y llwynog neu garlymod ar yr ynys, ac mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio'n galed i sicrhau nad yw'r un ymwelydd yn cario llygod mawr i'r ynys drwy ddamwain.

Mae par cyffredin y Drycin Manaw yn dodwy un wŷ y flwyddyn, ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen yn rhan o'r ymchwil manwl sy'n edrych ar ffordd yr adar o fyw.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sgomer yn gartref i dros hanner poblogaeth y byd o adar y Drycin Manaw yn y gwanwyn a'r haf

Mae tua 40 i 50 o adar gyda thag GPS i ddarganfod eu symudiadau ac i weld beth mae'r adar yn ei wneud tra'u bod ar y môr, gyda 50 arall yn cario tag hirdymor i'w lleoli ledled y byd.

'Aderyn cenedlaethol'

Fydd Birgitta Buche, neu Bee, yn gadael Sgomer y mis nesaf, ar ôl chwe blynedd fel warden yr ynys gyda'i phartner Ed Stubbings.

"I fi'n bersonol, nhw 'di'r creaduriaid gorau ar yr ynys" meddai.

"Dwi'n gwybod fod pawb yn caru palod, sy'n ciwt, ond mae'u holl ffordd o fyw, a'r ffaith fod hi ond yn bosib gweld nhw yn y nos, yn gwneud nhw'n arbennig iawn, yn gyffrous ac yn antur fawr i'w gweld nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Birgitta Buche does digon o werthfawrogiad o'r Drycin Manaw

Fydd Bee yn gweld colled eu cymdogion ac yn credu nad oes digon o werthfawrogiad o'r adar.

"Dylen nhw fod yn aderyn cenedlaethol Cymru, ac un o adar cenedlaethol Prydain hefyd, achos mae'r boblogaeth fwya' pwysig ar y blaned yn byw fan hyn.

"Mae eu tyllau, gyda'r palod a'r cwningod hefyd, wedi siapio'r ynys gyfan."