Sioe awyr yn gorfod canslo digwyddiadau achos y tywydd
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Sioe Awyr Y Rhyl yn dweud eu bod wedi gorfod canslo digwyddiadau eleni am y tro cyntaf erioed oherwydd y tywydd.
Prynhawn Sul fe gadarnhaodd y cyfarwyddwr sioeau hedfan, Peter Sinclair bod y Red Arrows yn un o'r atyniadau fydd methu cymryd rhan bellach.
Cafodd trefnwyr hefyd wybod na fyddai'r hediad i gofio Brwydr Prydain yn digwydd chwaith am nad oedd modd i'r awyrennau gyrraedd Y Rhyl oherwydd y tywydd.
Dywedodd Mr Sinclair ei fod yn "siomedig tu hwnt", ond y byddai pump o sioeau eraill yn dal i gael eu cynnal ddydd Sul.
Ychwanegodd mai dyma yw'r tro cyntaf ers i'r sioe ddechrau cael ei chynnal 10 mlynedd yn ôl i'r trefnwyr orfod canslo digwyddiadau.
Roedd disgwyl i filoedd o bobl heidio i'r Rhyl dros y penwythnos ar gyfer y sioe awyr blynyddol.
Ymhlith yr atyniadau ddydd Sadwrn roedd tîm erobatig Raven a thîm parasiwt y Red Devils.