Elusen yn galw am recriwtio mwy o arwyddwyr i'r byddar

  • Cyhoeddwyd
arwyddwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusen sy'n cynrychioli pobl fyddar wedi galw am ailgyflwyno cynllun ar gyfer recriwtio mwy o arwyddwyr proffesiynol.

Dywedodd Action on Hearing Loss fod sefydliadau celfyddydol a digwyddiadau mawr yn darparu cyfieithwyr oedd yn medru Iaith Arwyddo Brydeinig (IAB), ond y gallai lleoliadau a sinemâu llai wneud mwy.

Ychwanegodd yr elusen bod pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw yn parhau i wynebu heriau yn eu bywydau pob dydd.

Mae ystadegau'n awgrymu y gallai dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru fod yn fyddar neu'n drwm eu clyw.

'Deialog llawn'

Yng Nghymru mae 7,200 o bobl sy'n defnyddio IAB, ond mae llai na 100 o ymarferwyr cymwysedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cefnogi cynlluniau hyfforddiant i gynyddu'r nifer.

Mae Rhyan Berrigan, gwas sifil o Lanbradach ger Caerffili, wedi bod yn fyddar ers ei geni ac yn defnyddio IAB.

Mae'n mwynhau mynd i'r theatr, gigiau a'r sinema ac yn dweud bod y profiad yn mynd yn "haws o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhyan Berrigan yn dweud ei bod hi'n bwysig i gyfieithwyr allu cyfleu'r darlun cyflawn

"Ond os oes 'na sioe yn rhedeg am 20 noson er enghraifft, dim ond un fydd yn cynnwys arwyddwr, felly does gennych chi ddim llawer o ddewis," meddai.

"Mae'n rhaid i chi fynd y diwrnod hwnnw, neu fethu'r peth yn gyfan gwbl."

Mae'n dweud bod cael cyfieithydd cymwys yn hanfodol.

"Mae angen popeth arnoch chi - beth sy'n cael ei ddweud, y pwyslais, y jôcs, y comedi, mae'n rhaid i hynny i gyd gael ei gyfleu yn y cyfieithiad IAB ac mae hynny ond yn dod gyda hyfforddiant a hyder yr arwyddwr," meddai.

"Rydych chi'n methu llawer ohono os yw'r arwyddwr dim ond yn crynhoi yn hytrach na darparu'r deialog llawn."

'Cyflog isel'

Dywedodd Rebecca Wooley o Action on Hearing Loss: "Mae'r lleoliadau mawr yn eitha' da, ond dyw pobl ddim wastad yn gallu cael beth maen nhw eisiau ar adeg gyfleus, ac mae lleoliadau llai yn gallu bod yn anodd hefyd.

"Mae'n bosib eu bod nhw'n darparu ffilm gydag isdeitlau ond bosib ei fod e ar adeg anghymdeithasol fel 11:00 ar fore Sul. Mae pobl yn methu mas ac mae cynulleidfa fawr mas yna."

Yn ôl Tony Evans o Benarth, sydd wedi bod yn gyfieithydd IAB ers dros 20 mlynedd, mae'r cyflog isel yn un rheswm posib pam nad yw mwy o bobl yn hyfforddi i fod yn arwyddwyr.

Dywedodd y gallai cyfieithwyr ddisgwyl ennill tua £25,000 y flwyddyn - llai na chyflog cyfartalog y DU - a hynny ar ôl hyfforddi am hyd at saith mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 addo mynediad cyfartal i bobl anabl

"Mae'r cyflog yr awr yn edrych yn grêt, falle bod e'n £30-£35 yr awr... ond dydyn ni ddim yn gweithio saith awr y diwrnod, bum niwrnod yr wythnos, rydyn ni'n gweithio fan hyn a fan draw," meddai.

"Mae'n rhaid cymryd cyflog salwch a chyflog gwyliau allan o hynny, talu trethi fel unrhyw weithiwr llawrydd, a chael ein gwasgu gan asiantaethau sy'n ymladd am gytundebau ar y cynigion isaf posib."

Mae Action on Hearing Loss wedi dweud eu bod eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adfer cynllun fyddai'n recriwtio mwy o gyfieithwyr proffesiynol ym mhob agwedd o fywyd - o adloniant i apwyntiadau ysbyty a chyfarfodydd ag ysgolion a chynghorau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cydnabod IAB fel iaith yn 2004, a'u bod yn "adolygu'r ddarpariaeth bresennol o IAB i sicrhau ein bod yn ateb gofynion unigolion a theuluoedd".