Cau swyddfa dreth Wrecsam yn "ergyd enfawr" i'r ardal

  • Cyhoeddwyd
Swyddfa dreth Wrecsam

Byddai cau swyddfa dreth Wrecsam yn "ergyd enfawr" i'r ardal, yn ôl Undeb y PCS.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi clustnodi'r swyddfa, sy'n cyflogi 300, i gau erbyn 2021.

Bydd Anneliese Dodd o Fainc flaen y Blaid Lafur yn cwrdd â'r gweithwyr ddydd Mercher i drafod y sefyllfa.

Dywedodd Gareth Edwards, llefarydd ar ran Undeb y PCS y byddai'r gwasanaeth yn yr ardal yn dirywio o ganlyniad i'r penderfyniad.

Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Dollau, HMRC, y byddai'r newidiadau yn gwella'r gwasanaeth i gwsmeriaid.

"Drwy greu 13 canolfan newydd, modern mewn safleoedd lle mae mwyafrif ein staff eisoes yn byw, mae'n ein galluogi ni i wasanaethu bob ardal y DU."

Gareth Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gareth Edwards dim ond 10-15% o weithwyr sydd yn bwriadu symud i'r swyddfa yn Lerpwl

Penderfyniad 'gwirion'

Yn ôl y cynlluniau presennol, mae disgwyl i'r swyddi gael eu symud i Lerpwl neu Gaerdydd.

"Mae nifer o staff yn rhieni sydd ddim yn gallu symud, a drwy siarad gydag aelodau dim ond tua 10-15% sy'n bwriadu mynd i Lerpwl," meddai Mr Edwards.

"Mae'r staff yma yn brofiadol, gydag amryw o sgiliau ac fel undeb rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n wirion bod y swyddi yma yn cael eu colli."

Dywedodd HMRC eu bod am barhau i gefnogi gweithwyr yn Wrecsam sy'n symud i'r ganolfan ranbarthol yn Lerpwl, yn ogystal â chanfod opsiynau eraill i'r gweddill.

"Hoffwn gadw cymaint o staff a phosib, ac yn 2015 dangosodd ein gwaith cynllunio y byddai mwyafrif y gweithlu yn gweithio mewn canolfan rhanbarthol neu'n parhau i weithio mewn swyddfa HMRC arall."

Ychwanegodd llefarydd eu bod nhw'n cadw'r uned Gymraeg ym Mhorthmadog ar agor.