Iawndal i deulu wedi gwyliau mewn gwesty lle bu farw cwpl

  • Cyhoeddwyd
John a Susan CooperFfynhonnell y llun, FACEBOOK
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw John a Susan Cooper o Sir Gaerhirfryn yn ystod ei gwyliau yn Yr Aifft

Mae wedi dod i'r amlwg bod teulu o dde Cymru fu'n aros mewn gwesty yn Yr Aifft lle bu farw dau ymwelydd o Brydain wedi cael iawndal.

Cafodd y teulu Valu, sy'n bedwar o Gasnewydd, iawndal gan gwmni gwyliau Thomas Cook am fethu â sicrhau safonau hylendid yng ngwesty Steigenberger Aqua Magic yn ardal Hurghada.

Mae'r gwesty eisoes wedi dod i'r amlwg yn dilyn marwolaeth cwpl o Burnley, Sir Gaerhirfryn yno ar 21 Awst eleni.

Fe wnaeth John a Susan Cooper ddechrau teimlo'n sâl yn ystod eu gwyliau a bu farw Mr Cooper, 69 oed, yn ei ystafell wely ac yn ddiweddarach Mrs Cooper, 63, yn yr ysbyty.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos eu marwolaeth, ar ôl i'w merch ddweud bod y ddau yn "berffaith iach" ychydig oriau cyn iddyn nhw farw.

£26,000

Tra ar wyliau yn Yr Aifft yn 2016, fe wnaeth y teulu Valu ddechrau teimlo'n sâl ar ôl bwyta bwyd o'r gwesty yn unig.

Roedd y cwmni wedi'u cyhuddo o fethu â sicrhau fod bwyd a diod y gwesty yn "ddiogel i'w fwyta" a bod caniatâd i fwyd gael i "ail weini a'i ail ddefnyddio ar fwy nag un achlysur".

Llwyddodd y teulu i ennill £26,000, gan gynnwys costau, gan gwmni Thomas Cook yn dilyn achos llys, ar ôl i'w cwynion cychwynnol gael eu hanwybyddu.

Ffynhonnell y llun, DEUTSCHE HOSPITALITY
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwesty Steigenberger Aqua Magic yn ardal Hurghada yn Yr Aifft

Yn ôl y teulu Valu, roedden nhw wedi dioddef poenau yn eu stumog am tua dau fis yn dilyn y gwyliau.

Yn ôl cyfreithiwr ar ran y teulu, roedden nhw wedi dechrau sylwi fod tymheredd y bwyd yn wahanol i'r arfer pan oedd yn cael ei weini.

Yn ystod yr achos yn Llys Sirol Casnewydd, daeth i'r amlwg fod gwaith papur ar hylendid a thymheredd wedi cael ei lenwi'n gamarweiniol gan aelod o staff yn y gwesty.

'Diogelwch yw'r prif flaenoriaeth'

Mae Thomas Cook wedi cadarnhau mai'r tro diwethaf i arolwg gael ei gynnal o westy Steigenberger Aqua Magic oedd ym Mehefin 2018.

Mae Prif Weithredwr Thomas Cook, Peter Frankhauser eisoes wedi hedfan i'r Aifft er mwyn cael caniatâd gan yr awdurdodau yno i ymweld â'r ystafell lle fuodd Mr a Mrs Cooper yn aros.

Mae Mr Frankhauser wedi dweud nad oes "tystiolaeth gadarn i awgrymu beth wnaeth achosi'r marwolaethau", ond mae wedi sicrhau ei fod yn awyddus "i ddod i gasgliad yn fuan ynglŷn â'r achos".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Thomas Cook: "Diogelwch ein cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth, ni fuaswn fyth yn anfon cwsmeriaid i westy nad ydyn ni'n credu sy'n ddiogel.

"Rydym yn cynnal arolwg ar y 3,000 o'n gwestai craidd yn flynyddol, a hyd yma eleni mae 47 wedi'u tynnu oddi ar ein rhestr am resymau iechyd a diogelwch, tra bod 150 heb gyrraedd ein gofynion o ran safon."