274 o droseddau meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn cyfathrebu ar-leinFfynhonnell y llun, Kerkez/Getty Images

Cafodd dros 270 o droseddau rhyw yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant eu cofnodi gan heddluoedd Cymru y llynedd, yn ôl elusen NSPCC.

Daeth deddf i rym yn erbyn troseddau o'r fath yn Ebrill 2017 wedi ymgyrch gan yr elusen.

Yn y 12 mis wedi hynny fe gafodd 274 o droseddau eu cofnodi, 120 o'r rhain drwy gyfrwng Facebook, Instagram neu Snapchat.

Mae'r NSPCC wedi galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol i'w gorfodi i fynd i'r afael ag unigolion sy'n eu defnyddio i feithrin perthynas amhriodol gyda phlant.

Cafodd 158 o droseddau eu cofnodi gan Heddlu'r De, 53 gan Heddlu'r Gogledd a 44 gan Heddlu Gwent.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys ond yn gallu rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad â chyfnod o chwe mis, gan gofnodi 19 o droseddau yn y cyfnod hwnnw.

Casglu profiadau plant

Mae'r NSPCC wedi cyhoeddi manylion arolwg am brofiadau plant - y mwyafrif yn byw yn ne ddwyrain Lloegr.

Roedd yr arolwg yn gofyn i blant os oedd oedolyn erioed wedi danfon neu ddangos llun neu fideo anweddus iddyn nhw ar wefan, gêm neu ap.

Atebodd un eneth naw neu 10 oed: "Fe ofynnodd berson dieithr wrtha'i i dynnu fy nillad a danfon llun ato.

"Nes i ddileu'r gêm, mynd ar safle arall ac fe ofynnodd yr un person wrtha'i i gael rhyw gydag e. Dywedes i wrtho i adael llonydd i mi a dileu'r gêm yna.

"Rwy' wedi gweld y person yma ar nifer o safleoedd dwi'n eu chwarae, a wnes i benderfynu ei flocio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion, yn galw am reoli rhwydweithiau cymdeithasol yn llym, gan rybuddio eu bod bellach yn "borth ar gyfer cam-drin plant".

"Ni ellir diystyru meithrin perthynas â phlentyn fel rhywbeth sy'n eilbeth i droseddau ar-lein eraill," meddai.

"Mae'n digwydd nawr, mae'n digwydd i blant ifanc iawn, mae'n digwydd mor aml nes mae'n dod yn normal, a ddim yn unig o gyfeiriad oedolion dieithr ond o gyfeiriad oedolion rydych yn eu nabod."

Dim ond Heddluoedd Manceinion, Caerhirfryn ac Avon & Somerset oedd â nifer uwch o droseddau na Heddlu De Cymru.

Parhau i wneud 'popeth posib'

Roedd yna 2,908 o droseddau yn Lloegr yn yr un flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi rhoi'r adnoddau angenrheidiol i heddluoedd Cymru a Lloegr adnabod plant sy'n cael eu targedu ac erlyn troseddwyr - gan gynnwys dros £20m y llynedd i alluogi swyddogion arbenigol i ymchwilio fforymau ar-lein

Ychwanegodd bod angen i gwmnïau technolegol "barhau i wneud popeth posib" i atal pobl rhag camddefnyddio'u gwasanaethau ac ecsploetio plant.

Mae bwriad i gyhoeddi papur gwyn yn amlinellu deddfwriaeth bosib cyn diwedd y flwyddyn.