Rheoli cyffuriau'n amod i glwb nos Caerdydd all ddal 10,000

  • Cyhoeddwyd
ci canfod cyffuriauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r defnydd o gŵn yn un o nifer o orchmynion a roddwyd gan Heddlu De Cymru

Fe allai un o glybiau nos mwya'r byd agor yng Nghaerdydd, ond bydd rhaid i berchnogion y safle sicrhau fod yna gŵn canfod cyffuriau yno, yn ôl Heddlu De Cymru.

Bwriad cwmni Live Nation UK yw creu clwb yn ardal Sblot fyddai'n gallu dal 10,000 o bobl.

Gan fod cymaint o bryder am ddefnydd posib o gyffuriau, mae'r heddlu yn mynnu'r defnydd o gŵn arbenigol i synhwyro pawb fyddai'n ymweld â Titan Warehouse.

Dywedodd Live Nation fod ganddynt "bolisi dim goddefgarwch" tuag at gyffuriau.

Bydd y cais am drwydded yn mynd gerbron Cyngor Caerdydd ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, BBCF

Mae rhestr gorchmynion y llu yn cynnwys cŵn canfod cyffuriau wrth y mynediad, y defnydd o ddatgelwyr metel ar y drws yn ogystal â'r hawl i'r heddlu wneud penderfyniadau terfynol cyn cynnal unrhyw ddigwyddiad.

Dywedodd yr heddlu hefyd y byddai'n rhaid sicrhau bod digon o fwyd ar gael i gwsmeriaid yn ystod pob digwyddiad.

Byddai'r clwb yn cynnal sawl math o ddigwyddiad gan gynnwys dramâu, cerddoriaeth byw, ffilmiau a cherddoriaeth ddawns.

Fel rhan o'r cais, dywedodd Live Nation bod ganddynt "brofiad helaeth" o drefnu digwyddiadau ar raddfa fawr, boed hynny tu mewn neu du allan, a hyn oll tra'n cydymffurfio â rheolau trwyddedu'r DU.

Er bod rhai trigolion a busnesau lleol wedi gwrthwynebu'r cynllun ar sail sŵn a diogelwch, mae arweinydd y cyngor, Huw Thomas yn cefnogi'r cais.