Fideo: 50 mlynedd ers i Sobers greu hanes yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Union 50 mlynedd yn ôl cafodd hanes ei greu yn Abertawe...

Mae hi'n 50 mlynedd ers i hanes gael ei greu ar gaeau Sain Helen yn Abertawe.

Mewn gêm griced rhwng Morgannwg a Swydd Nottingham ar 31 Awst, 1968, fe darodd Garfield Sobers chwe 6 i'r ymwelwyr mewn un pelawd.

Dyma'r tro cyntaf i rywun gyflawni'r gamp mewn criced dosbarth cyntaf.

Chwaraeodd Sobers am ugain mlynedd dros dîm prawf India'r Gorllewin (1954-1974).

Mae'n cael ei adnabod gan lawer fel un o'r chwaraewyr criced gorau erioed, a hefyd un o'r chwaraewyr mwyaf amryddawn - gyda'r bat neu bêl yn ei law.

Ond bydd llawer wastad yn ei gofio fel y dyn a gyflawnodd y gamp anhygoel ar gae criced yn Abertawe yn 1968.