Ddim yn siafio?... ddim yn broblem
- Cyhoeddwyd
Credwch neu beidio, mae gan ferched flew ar eu cyrff. Oes wir.
Mae hi'n 'norm' cymdeithasol bellach i ferched eillio bron pob rhan o'r corff - bron nad ydy hi'n rheidrwydd.
Ond mae ambell i fenyw wedi penderfynu mai digon yw digon, ac am gyhoeddi hynny i'r byd.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â Manon Fischer-Jenkins o Gaerdydd, sydd wedi penderfynu wfftio'r sebon siafio a'r rasal, ac yn byw bywyd blewog, hapus:
Dros y blynyddoedd, dwi wedi mynd drwy gyfnode o ddim siafio, fel dros y gaea', ond unwaith o'n i'n cael y coese mas, o'n i'n siafio popeth, a wastad yn gwneud dan fy ngheseilie.
Ond newidiodd e pan nes i ffeindio mas mod i'n feichiog, a nes i droi yn eitha' superstitious - o'n i'n siŵr os faswn i'n torri'r gwallt, roedd rhywbeth am ddigwydd i'r babi! Ond dair blynedd yn ddiweddarach, does dim ffordd 'na'i gael gwared ar y blew nawr!
Mae'n rili neis i beidio gorfod siafio - roedd e'n gymaint o hassle, ac ro'n i'n aml yn cael rash o dan fy ngheseilie i. A mae 'mlew i'n dywyll, felly hyd yn oed pan o'n i yn siafio, munud wedyn o'dd stubble yna beth bynnag.
Dwi'n meddwl fod y blew ar fy nghoese yn edrych yn llawer gwell nawr na phan o'dd e'n hanner stubble.
Nawr fod y blew wedi cael cyfle i dyfu'n hir, mae'n rili fine, ac yn teimlo'n neis. Dwi'n aml yn ffeindio fy hun yn mwytho fy nghoese wrth wylio'r teledu!
Mynd mas mewn shorts...
I ddechre, wrth fynd mas yn gyhoeddus, o'dd e'n rhywbeth o'dd yng nghefn fy meddwl i, pan o'dd hi'n boeth ac o'n i am wisgo shorts.
'Nath e gymryd sbel, gan mod i'n gwybod bod pobl am syllu, ond nawr dwi mewn shorts drwy'r amser.
Y cam mwya' o'dd dangos fy nghoese yn y gwaith, mewn ysgol gynradd - ond roedd e'n deimlad mor lysh i fynd i mewn a pheidio poeni am y peth. 'Nath y plant sylwi, a nes i jest egluro fod gan ferched flew ar eu coesau, a dyna ni.
Beth sy' braidd yn siomedig yw ymateb fy nheulu i. Mae Mam wastad yn holi 'pryd wyt ti am droi yn "lady"?'.
Mae hi wastad eisiau i mi guddio fy nghoese. A 'dyw'n chwaer i ddim yn deall chwaith, a ma' nhw'n dweud ei fod e'n "disgusting".
Ond pam? Jest blew yw e!
Ond dwi ddim yn poeni beth ma'n nhw'n feddwl, ac os dwi ddim yn poeni be' ma'n nheulu i'n feddwl, dwi'n sicr ddim yn poeni beth ma' dieithryn ar y stryd yn ei feddwl.
'Nath Mam bwynt diddorol yn ddiweddar.
Roedd hi'n syllu ar fy nghoesau i a dywedodd hi ei bod nhw jest ddim yn "attractive". Ond pam bod rhaid i mi drio bod yn attractive? I bwy?
Dwi wedi priodi, mae ngwraig i yn fy hoffi i fel ydw i... pam fod rhaid i unrhyw un arall feddwl fy mod i'n attractive?
A dyna rydyn ni'n ei wneud i ferched ifanc - gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n gorfod trio edrych yn ddeniadol i bobl eraill, drwy newid eu cyrff nhw a ffitio i mewn i gymdeithas. Mae e'n rili trist.
Angen mwy o drafod
Mae e hefyd yn dipyn o tabŵ ym Mhrydain. Dwi'n cofio wastad yn mynd ar wylie i Ffrainc pan o'n i'n ifanc, a gweld perthnasau i mi sydd o'r Eidal, a'r menywod gyda choesau a cheseilie blewog.
Ym Mhrydain, dy'n ni jest ddim yn ei weld e mor aml. Y diwrnod o'r blaen, roedd rhywun yn syllu ar fy nghoese i, ac yn amlwg mo'yn dweud rhywbeth - mae e mor anarferol.
Nes i godi'r pwnc mewn grŵp ar Facebook yn ddiweddar, ac roedd e mor braf gallu bod mor agored am y peth, a'i fod yn cael ei drafod â pharch, mewn trafodaeth gall.
Roedd y sgwrs yn cynnwys barnau gwahanol, ac yn cynnwys gwahanol genedlaethau a oedd yn trafod yr un pwnc, ac yn rhoi perspectif gwahanol ar y peth.
Mae bendant yn rhywbeth sydd yn cael ei drafod mwy y dyddiau yma, ond mae dal pobl sydd yn credu fod ganddyn nhw'r hawl i fod yn amharchus. Ond beth ydy'r ots iddyn nhw fod gen i lond coesau o flew!
Does gen i ddim byd yn erbyn siafio - os ti mo'yn tynnu pob blewyn o dy gorff di, iawn - rhydd pawb ei ddewis.
Ond yn bersonol, dwi'n teimlo lot mwy cyfforddus a hapus nawr, a dwi 'di dod yn rili attached i'r blew!
Hefyd o ddiddordeb... (os nad ydych chi wedi cael eich argyhoeddi!)