S4C yn sicrhau'r hawliau i gemau tîm pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Mae S4C wedi dod i gytundeb gyda Sky Sports i allu dangos pob un o gemau tîm pêl-droed dynion Cymru yn fyw dros y ddau dymor nesaf.

Bydd y gemau yn cynnwys rhai yng Nghynghrair y Cenhedloedd, gemau rhagbrofol Euro 2020 a gemau cyfeillgar yn erbyn Sbaen ac Albania.

Mae'r cytundeb gyda Sky Sports, deiliad hawliau'r DU ac Iwerddon, yn cynnwys 16 gêm - gan ddechrau gyda Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Mae hyn yn newyddion ardderchog i wylwyr S4C ac i gefnogwyr pêl-droed Cymru.

"Yr ydym i gyd yn cofio'r gystadleuaeth Ewro diwethaf yn 2016 a'r llawenydd a'r pleser a ddaeth hynny i bawb yng Nghymru.

"Roedd yn fraint i allu dod â'r profiadau hynny i'n gwylwyr. Gobeithio y bydd y ffordd i 2020 yr un mor gyffrous a llwyddiannus ar y maes ac ar y sgrin."