Cymraes wedi ei chanfod yn farw tra ar wyliau yn Bali

  • Cyhoeddwyd
Marwolaeth Bali
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Natalie Morris tra ar wyliau ar ynys Lembongan, oddi ar arfordir deheuol Bali

Mae menyw ifanc o Gaerdydd wedi ei chanfod yn farw mewn pwll tra ar wyliau yn Bali.

Roedd Natalie Morris, 29 oed, wedi teithio i Indonesia gyda'i chariad Andrew Samuel, 30 oed.

Roedden nhw'n aros mewn fila ar ynys Lembongan, oddi ar arfordir deheuol Bali.

Yn ôl adroddiadau yn lleol, daeth Mr Samuel o hyd i Ms Morris yn anymwybodol ym mhwll plymio'r fila preifat, a methodd â'i hadfywio.

Roedd Ms Morris yn dod yn wreiddiol o ardal Merthyr Tudful.

Mae ei theulu a'i ffrindiau wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i fynegi eu sioc.

Dywedodd un ffrind fod teulu Ms Morris wedi clywed y newyddion drwy alwad ffôn gan Mr Samuel ddydd Sul.

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal mewn ysbyty ym mhrifddinas ynys Bali, Denpasar.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn "cefnogi teulu dinesydd Prydeinig fu farw yn Bali, ac mewn cysylltiad â'r awdurdodau yn Indonesia".