Gwrthod cais am safle i Sipsiwn a theithwyr ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer safle dros dro i Sipsiwn a theithwyr ar Ynys Môn wedi eu gwrthod.
Roedd cais wedi cael ei gyflwyno ar gyfer gwersyll gyda lle i 10 cerbyd ar dir fferm rhwng yr A5 a'r A55 yn Star ger Gaerwen.
Ond cafodd y cynnig ei wrthod gan bwyllgor cynllunio'r cyngor, a hynny wedi i 1,500 o drigolion arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Daeth hynny er bod swyddogion Cyngor Môn wedi argymell cymeradwyo'r cais.
'Haeddu gwell'
Bydd y cais nawr yn cael ei ailystyried ym mis Hydref, fel sy'n digwydd gyda phenderfyniadau sy'n mynd yn erbyn cyngor swyddogion.
Yn ôl swyddogion cynllunio mae angen y datblygiad er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ar dai.
Dywedodd John Stoddard o gwmni Capita, oedd yn rhan o'r cais, wrth y pwyllgor fod ymgynghoriad wedi bod gyda'r gymuned Sipsi a'u bod wedi cytuno fod y safle'n briodol.
Mae'r cyngor wedi bod yn edrych ar ddau safle posib ar gyfer Sipsiwn ar yr ynys ers 2016, gyda thir wedi'i glustnodi ar gyfer safle aros dros dro yn Star, a safle parhaol ger Penhesgyn.
Ond fe wnaeth gwrthwynebwyr i'r cynllun grybwyll pryderon fel risg llifogydd, llygredd a diogelwch ffordd, ac awgrymu y gallai ffens 2.4m o uchder o gwmpas y safle effeithio ar dwristiaeth.
"Dwi'n cytuno bod angen safle rhywle ond mae teithwyr yn haeddu un gwell na hwn, sydd yn hollol amhriodol," meddai Dewi Gwyn, oedd yn siarad yn y cyfarfod ar ran gwrthwynebwyr lleol.
Wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu'r Gogledd ddim gwrthwynebu'n ffurfiol, ond fe wnaeth yr heddlu nodi fod y safle yn agos at yr A5.