Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Gôl rhif 30 Gareth Bale dros ei wladFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gôl rhif 30 Gareth Bale dros ei wlad

Roedd yna fuddugoliaeth ysgubol i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan sicrhau'r dechrau gorau posib i'r tîm yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd.

Yn ei gêm gystadleuol gyntaf fel rheolwr Cymru fe wnaeth Ryan Giggs sawl newid beiddgar i'r 11 cyntaf.

Cafodd aelodau profiadol o'r garfan, Chris Gunter a James Chester, eu gadael ar y fainc wrth i Giggs roi cyfle i Ethan Ampadu a David Brooks chwarae gêm gystadleuol am y tro cyntaf.

Chwe munud gymrodd hi i Tom Lawrence roi'r tîm cartref ar y blaen, ac fe ddyblodd Gareth Bale y fantais wedi pas wych gan Ben Davies gydag ergyd nerthol wedi 17 o funudau - ei 30ain gôl ryngwladol.

Daeth y drydedd gôl cyn yr egwyl - Ethan Ampadu yn creu'r cyfle i Aaron Ramsey oedd yn rhydd yn y cwrt gan guro'r golwr, Darren Randolph ar ei bostyn agosaf.

Yn yr ail hanner fe sgoriodd y cefnwr Connor Roberts ei gôl ryngwladol gyntaf ar ôl rheoli pas gan Bale ar draws y cwrt cosbi a tharo foli i'r gornel.

Ond fe lwyddodd Shaun Williams i rwydo dros yr ymwelwyr i wneud y sgôr derfynol yn 4-1 yn dilyn camgymeriad gan Aaron Ramsey ar ymyl ei gwrt cosbi ei hun.

Ymlaen i Aarhus

Bydd tîm Cymru nawr yn teithio ymlaen i Aarhus lle byddan nhw'n herio Denmarc yn eu hail gêm yn y gystadleuaeth nos Sul.

Oherwydd anghydfod rhwng chwaraewyr proffesiynol y wlad a'r Gymdeithas Bêl-droed, fe wnaeth Denmarc chwarae yn erbyn Slofacia nos Fercher gyda chwaraewyr o adrannau is y gynghrair ac ambell chwaraewr futsal - pêl-droed 5-bob-ochr i bob pwrpas.

Ond rhyw chwarter awr cyn y gêm yng Nghaerdydd nos Iau daeth y newyddion fod y ddwy ochr wedi cymodi dros dro, ac fe fydd y prif chwaraewyr yn ôl i Ddenmarc yn erbyn Cymru.

Er hynny, dyw Denmarc ddim wedi cael y paratoad gorau cyn wynebu Cymru, ac fe fydd hyder tîm Ryan Giggs yn uchel iawn wedi buddugoliaeth ysgubol yn erbyn y Gwyddelod.