Digwyddiad difrifol ar ffordd ger Merthyr
- Cyhoeddwyd
![A465](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/114B3/production/_103353807_a57dc07d-cc84-4c88-a649-cc51ee4d3eda.jpg)
Cafodd ffordd Blaenau'r Cymoedd ym Merthyr Tudful ei chau fore Sul oherwydd digwyddiad difrifol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A465 rhwng Cefn Coed a Pant am 06.12 y bore.
Yn ôl Heddlu'r De maen nhw'n trin y digwyddiad fel un difrifol.
Cafodd y ffordd ei hail agor am 11.50 fore Sul.
Does dim manylion pellach.