Gareth Bale fydd capten Cymru yn erbyn Denmarc
- Cyhoeddwyd
Mae Ryan Giggs wedi gofyn i Gareth Bale gapteinio Cymru wrth iddyn nhw herio Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd prynhawn dydd Sul.
Daeth y cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ychydig oriau ar ôl iddi ddod i'r amlwg na fydd Ashley Williams yn chwarae, er ei fod wedi teithio gyda'r garfan i Aarhus.
Mae Williams, 34, wedi bod yn gapten ar Gymru ers 2012.
Mae Ben Woodburn wedi cymryd lle Williams yn y garfan, a'r disgwyl ydy y bydd James Chester yn ennill ei le yng nghanol yr amddiffyn yn lle Williams.
Yn y gorffennol mae Chris Gunter, Joe Allen ac Aaron Ramsey wedi arwain y tîm, ond mae Ryan Giggs wedi penderfynu y tro hwn i roi'r gapteiniaeth i Gareth Bale.
Fe gyrhaeddodd y tîm faes awyr Aarhus yn hwyr nos Sadwrn, ar ôl i'w hedfaniad o Gaerdydd gael ei gohirio am rai oriau am fod nam ar eu hawyren.
Bu'n rhaid i'r rheolwr Ryan Giggs ganslo cynhadledd i'r wasg a oedd yn fod i gael ei chynnal yn Stadiwm Parc Ceres yn Aarhus am 18:30 (Amser Safonol Prydain).
Dyma ydy ail gêm Cymru yn y gystadleuaeth, ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon o 4-1 yng Nghaerdydd nos Iau.
Cafodd aelodau profiadol o'r garfan, Chris Gunter a James Chester, eu gadael ar y fainc yn erbyn y Gwyddelod wrth i Giggs roi cyfle i Ethan Ampadu a David Brooks chwarae gêm gystadleuol am y tro cyntaf.
Bydd gan BBC Cymru Fyw lif byw yn ystod y gêm - y gic gyntaf am 17.00.