Gwaredu mwd Hinkley i wynebu her gyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Artist's impression of Hinkley Point C plantFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae trwydded wedi cael ei rhoi i symud 300,000 tunnell o fwd o Hinkley Point C i safle ychydig dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd

Mae disgwyl i'r gwaith o ollwng mwd a gwaddod o orsaf niwclear Hinkley Point i safle oddi ar Fae Caerdydd ddechrau ddydd Llun wedi llawer o oedi.

Bwriad cwmni EDF yw symud 300,000 tunnell o fwd o safle hen atomfeydd Hinkley Point A a B i safle ychydig dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd.

Mae EDF wedi cadarnhau bod un llong wedi dechrau treillio'r mwd o Hinkley, a'i ollwng ar long arall yn barod i'w symud.

Roedd y gwaith i fod i ddechrau wythnos ddiwethaf ond bu'n rhaid gohirio am nad oedd modd cael peiriant pwrpasol i afon Hafren i symud y mwd.

Yn y cyfamser, mae ymgyrch yn erbyn gwaredu mwd Hinkley wedi cyflwyno dogfennau llys mewn ymgais i gael gorchymyn llys i atal gwaredu'r mwd.

'Dylid ailfeddwl'

Roedd y gwaith o ollwng mwd o atomfa Hinkley yn ne orllewin Lloegr yn y môr ger Bae Caerdydd i fod i ddechrau ddydd Iau diwethaf.

Yn dilyn oedi, mae llongau wedi cyrraedd Hinkley Point ddydd Llun yn ôl cwmni EDF Energy. Er hynny mae amgylchiadau'r llanw yn lleol yn golygu efallai na fydd y gwaith yn dechrau yn syth.

Mae'r camau cyfreithiol yn cael eu cymryd gan Cian Ciaran - aelod o'r grŵp Super Furry Animals - gyda chefnogaeth Cyfeillion y Ddaear y Barri a Phenarth, Neil McEvoy AC a'r Gyngres Wrth-Niwclear Gymreig (WANA).

Cafodd yr achos ei ddwyn yn erbyn NNB Generation Company, sef y cwmni a gafodd y trwyddedau er mwyn gwneud y gwaith o waredu'r mwd.

Disgrifiad o’r llun,

Cannoedd yn protestio y tu allan i'r Senedd ddiwedd Awst

Mae dros 100,000 o bobl wedi arwyddo deisebau yn erbyn gwaredu'r mwd.

Dadl yr ymgyrch yw nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o effaith amgylcheddol caniatáu trwydded.

Dywedodd Cian Ciaran: "Mae gen i un ddadl syml - dyw absenoldeb tystiolaeth ddim yn golygu tystiolaeth o absenoldeb [o berygl].

"Fe ddylai'r egwyddor o fod yn ofalus orchymyn ailfeddwl yn yr achos yma."

Mae ymgyrchwyr yn poeni y gallai'r mwd o Wlad yr Haf gynnwys gwastraff niwclear.

Ddiwedd mis Awst, fe brotestiodd rhai cannoedd y tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd er mwyn gwrthwynebu'r bwriad.

Mae'n rhaid symud y mwd fel rhan o waith cychwynnol codi atomfa newydd Hinkley Point C - cynllun gwerth £19.6bn.

Mae asiantaeth Llywodraeth y DU, CEFAS, wedi cynnal profion ar y mwd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu'r canlyniadau wedi hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Bwyllgor y Cynulliad ddangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol.

"Roedd hefyd yn cadarnhau fod bob prawf ac asesiad yn awgrymu fod y deunydd {mwd} o fewn terfynau diogel, yn peri dim risg radiolegol i iechyd cyhoeddus na'r amgylchedd, ac yn ddiogel i'w waredu yn y môr."

Gwrthodd y llefarydd wneud sylw ar y camau cyfreithiol.

Daethpwyd i'r casgliad bod lefelau ymbelydredd artiffisial mor isel y bydden nhw "ddim yn ymbelydrol" yn gyfreithiol.

Mae deiseb arall gan Greenpeace i gwmni EDF wedi casglu 87,000 o lofnodion, ac mae clymblaid o 10 o elusennau cadwraeth môr wedi anfon llythyr agored at yr Ysgrifennydd Ynni, Lesley Griffiths.

Bythefnos yn ôl, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Deisebau yn dangos bod casgliadau Cyfoeth Naturol Cymru wedi'u selio ar gyngor arbenigol.

"Fe wnaeth yr adroddiad hefyd gadarnhau fod y deunydd yn ddiogel ac yn addas i'w waredu yn y môr ac nad oes yna unrhyw berygl ymbelydrol i iechyd na'r amgylchedd."