Gohirio gwaredu mwd Hinkley Point yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i waredu mwd a gwaddodion o orsaf bŵer Hinkley Point C oddi ar arfordir Caerdydd wedi cael eu gohirio, o 16 Awst i rywbryd ym mis Medi.
Mae Nuclear Free Local Authorities (NFLA) yn croesawi'r penderfyniad gan EDF Energy, y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ail-ystyried eu cefnogaeth.
Yn ogystal, mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn gwrthwynebu'r cynllun yn chwyrn, a'i bod yn ystyried gwaredu gwastraff adeiladu niwclear o Loegr yn nyfroedd Cymru yn "hollol annerbyniol ac yn anegwyddorol".
Serch hynny, mae CNC wedi dweud yn y gorffennol nad oes peryg i bobl na'r amgylchedd a'u bod yn cymeradwyo'r cynllun monitro ar gyfer gwaredu â'r deunydd..
Yn ôl John Wheadon, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu CNC, mae "rhwystrau allanol" wedi gohirio'r cynllun i dreillio ac yna i waredu'r mwd, ac nid oes dyddiad pendant wedi ei gadarnhau.
Mae EDF Energy a Llywodraeth Cymru hefyd wedi cefnogi'r cais, gan ddatgan nad oes perygl i fywyd môr lleol.
Fodd bynnag, mae nifer o ddeisebau a grwpiau ymgyrchu wedi galw i atal y penderfyniad i waredu'r mwd tan fod arbrofion pellach o'r cynnwys wedi cael eu gwneud.
Mae NFLA yn galw eto ar Lywodraeth Cymru a CNC i ail-ystyried cymeradwyaeth cynt y prosiect ac ystyried ymateb y cyhoedd.
'Ymateb anniddig y cyhoedd'
Yn ôl y Cynghorydd Ernie Galsworthy, sydd hefyd yn gyd-gadeirydd ar NFLA y DU a Fforwm Cymru, fe groesawodd y mudiad y gohiriad, gan obeithio y byddai'n "rhoi amser i ail-ystyried y mater ac ystyried ymateb anniddig y cyhoedd."
Mae Tim Deere-Jones, ymgyrchydd ac ymgynghorydd ymbelydredd morol, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri ar draws cyfle pwyllgor deisebau'r Senedd i roi ystyriaeth lawn i'r holl dystiolaeth i lunio adroddiad er mwyn bodloni amserlen dynn EDF Energy.
Yn ogystal, dywedodd Mr Deere-Jones: "Dyma lywodraeth sydd wedi dyrchafu rhinweddau llywodraeth agored a thryloywder, ond eto, wrth drafod gwaredu mwd ymbelydrol, mae'n ymddangos i fi fod y llywodraeth wedi ymddwyn yn gwbl groes i hynny.
"Wrth weithio i waredu mwd o'r fath ar arfordir Cymru, mae angen ystyried cyn dim byd arall diogelwch y cyhoedd a glendid amgylchedd y tir a'r môr, yn hytrach na'r budd i'r diwydiant niwclear."
Mae Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar ynni, wedi datgan ei wrthwynebiad, gan ddweud bod y penderfyniad i waredu'r gwastraff o safle adeiladu niwclear yn Lloegr yn nyfroedd Cymru yn "hollol annerbyniol ac yn anegwyddorol".
Dywedodd Mr Gruffydd: "Os bydd yn gwasgaru neu'n cael effaith ar yr amgylchedd lleol, bydd cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud yn iawn o unrhyw effaith a geir mewn ardal morol a ddiogelir.
"Er gwaethaf hyn, ni chynigiwyd taliad nac iawndal i drethdalwr Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017