'Angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd sy'n mabwysiadu'
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar deuluoedd sy'n mabwysiadu, yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Dywedodd un fam, sydd wedi bod drwy'r broses, ei bod yn teimlo bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi cefnu arni ar ôl iddi fabwysiadu brawd a chwaer 10 mlynedd yn ôl.
Yn ystod 2017/18, cafodd dros 300 o blant eu mabwysiadu yng Nghymru tra bod 350 yn rhagor yn aros i gael eu paru neu eu gosod gyda theulu newydd.
Sefydlwyd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru fis Tachwedd 2014 ac ers hynny mae'r gymdeithas yn dweud ei bod wedi cyflwyno gwelliannau i wasanaethau cefnogi.
Ond mae'r cyfarwyddwr, Suzanne Griffiths, yn dweud ei fod yn hanfodol bod mwy o welliannau yn cael eu cyflwyno a bod angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy.
Dywedodd: "Mae nifer sy'n mabwysiadu'n dewis peidio gofyn am gymorth a nifer ohonyn nhw ddim angen y cymorth chwaith, ond yr hyn sydd angen ei sicrhau yw bod cymorth ar gael i'r rhai sydd ei angen a bod mynediad ato'n hawdd.
"Doedd dim buddsoddiad sylweddol pan newidiodd y ddeddf yn 2002 ac erbyn hyn mae 'na fwy o alw. Felly, mae angen i ni edrych ar adnoddau."
'Diogelu gwasanaethau cymdeithasol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi mabwysiadu, a'u bod yn parhau i wneud gwelliannau gan gynnwys sicrhau cefnogaeth therapiwtig well i'r sawl sy'n dioddef materion cysylltiedig ag emosiwn ac ymddygiad.
"Drwy'r cyllid yr ydym yn ei ddarparu i lywodraeth leol, rydyn wedi sicrhau nad yw'r toriadau ariannol gwaethaf wedi taro gwasanaethau cymdeithasol - yn Lloegr mae'r gwasnaethau cymdeithasol wedi wynebu toriadau sylweddol yn ystod y chwe blynedd."
Adroddiad blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru2017/18
300 o blant wedi'u gosod mewn cartrefi newydd
500 o blant yn cael eu helpu gan wasanaethau cymorth
167 o geisiadau newydd am gymorth ar ôl mabwysiadu
150 o geisiadau am gymorth i gysylltu â theulu biolegol
16% o blant oedd yn derbyn gofal yn dod i gysylltiad â'r gwasanaeth
Yn 2017/18, bu'n rhaid i'r gymdeithas ymdrin â 167 o geisiadau newydd am gymorth ar ôl i deuluoedd fabwysiadu - cynnydd o draean ar y flwyddyn flaenorol.
Mae'r gymdeithas yn cydnabod bod angen paratoi teuluoedd sy'n mabwysiadu yn well yn ystod y dyddiau cynnar, yn ogystal â sicrhau bod teuluoedd yn cael gwybodaeth a chyngor pryd bynnag sydd ei angen arnynt.
Dywedodd Suzanne Griffiths bod y broses o rannu gwybodaeth am y plentyn mabwysiedig wedi gwella dros y ddegawd ddiwethaf.
"Mae mabwysiadwyr yn cwrdd â gofalwyr maeth, cynghorwyr meddygol, maen nhw'n mynychu cyfarfodydd ac maen nhw'n gallu cysylltu â'r ysgol y mae'r plant yn ei mynychu, felly mae'r wybodaeth am y plentyn yn llawer mwy cynhwysfawr na'r hyn oedd ar gael yn hanesyddol.
"Ond o ddweud hynny, mae angen cael mynediad at wasanaethau yn gynharach fyth."
Ychwanegodd bod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol am sicrhau bod plant oedd yn arfer bod mewn gofal yn cael eu blaenoriaethu wrth gael mynediad i rai gwasanaethau - fel gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc.
Bu mam a fabwysiadodd merch a bachgen, pump a phedair oed, 10 mlynedd yn ôl yn rhannu ei phrofiadau.
Roedd y teulu'n ymwybodol o'u cefndir cythryblus - ond doedd dim manylion ganddyn nhw. Dywedodd bod na ddiffyg cefnogaeth iddyn nhw ond roedd hyn cyn sefydlu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
"Yn y bôn, fe ddiflannodd ein gweithiwr cymdeithasol ni oddi ar wyneb y ddaear. Roedd yn teimlo fel tase wedi cefnu arnom ni," meddai.
O fewn cyfnod o flwyddyn, gwelodd y teulu weithiwr cymdeithasol rhyw bump neu chwech gwaith yn unig.
Profiad cadarnhaol
Ond un fam sy'n teimlo ei bod wedi cael profiad cadarnhaol wrth fynd drwy'r broses fabwysiadu yw Eurgain Haf.
Fe ddechreuodd hi a'i gŵr Ioan ar y broses yn Chwefror 2012 a daeth Cian atyn nhw ym mis Mehefin 2013 pan oedd newydd gael ei flwydd oed.
Bu'n rhaid iddyn nhw, yn ôl y drefn, fynychu cyrsiau hyfforddiant a chael eu holi'n drylwyr, ond dywed Eurgain iddyn nhw dderbyn cefnogaeth wych gan yr awdurdod lleol gydol yr amser.
Dywedodd: "Fe gyrhaeddodd Cian yr aelwyd ar ôl iddo fe droi ei flwydd oed ac mae o erbyn hyn wedi troi chwech oed.
"Mae'r berthynas yna 'efo ein gweithwraig cymdeithasol dal yna, ac 'efo'r tîm ehangach ac 'efo'r cyngor hefyd. Dwi'n gwybod bod nhw yna ben arall y ffôn os oes gen i unrhyw gwestiwn."
Ddwy flynedd ar ôl mabwysiadu, rhoddodd Eurgain enedigaeth i ferch fach.
Dywedodd y cwpl wrth Cian eu bod nhw'n teimlo yn gyflawn bellach a bod Cian wedi dod ag anrheg iddyn nhw - sef ei chwaer fach Lois Rhodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2014