Lansio gwasanaeth mabwysiadu newydd

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Mae gwasanaeth mabwysiadu newydd yn cael ei lansio ddydd Mercher gyda'r nod o gyflymu'r broses bresennol.

Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei lansio yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2014, yn ceisio cynyddu'r nifer o fabwysiadwyr a darparu cefnogaeth ôl-fabwysiadu o safon i'r rheiny sydd ei angen.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd yn rhoi'r cyfle i fwy o blant ymuno â theuluoedd cefnogol a chariadus.

Ond mae rhai eisoes wedi codi pryderon am ddiffyg cefnogaeth yng Nghymru i fabwysiadwyr.

139 o blant

Mae'r gwasanaeth newydd yn golygu bod pum tîm rhanbarthol a dwy asiantaeth fabwysiadu yn cydweithio ar draws Cymru, gan wneud y gwaith oedd yn arfer cael ei wneud gan dimau mabwysiadu unigol yr awdurdodau lleol.

Bydd rhai mathau o fabwysiadu'n parhau i gael eu trefnu gan awdurdodau lleol, ond bydd y mwyafrif yn cael eu trefnu gan y timau rhanbarthol, gan uno arbenigedd ac adnoddau awdurdodau lleol, mudiadau yn y sector gwirfoddol a gwasanaethau iechyd ac addysg.

Bydd Cofrestr Mabwysiadu Cymru, fydd yn cael ei redeg gan BAAF Cymru, yn chwarae rôl allweddol wrth geisio cysylltu plant gyda mabwysiadwyr posibl, er mwyn sicrhau bod rhieni addas yn cael eu darganfod ar gyfer pob plentyn, a hynny mor fuan â phosibl.

Ar hyn o bryd mae 139 o blant ar Gofrestr Mabwysiadu Cymru yn disgwyl i gael eu mabwysiadu.

Mae 58 o fabwysiadwyr posibl wedi eu cyfeirio at y Gofrestr, ond dim ond 22 sydd ar gael ar gyfer y plant ar y Gofrestr oherwydd bod rhai eisoes yn cael eu hystyried fel mabwysiadwyr posibl ar gyfer plant eraill.

Nid oes unrhyw fabwysiadwyr wedi eu cyfeirio at y Gofrestr sy'n fodlon cynnig cartref i grŵp o frodyr a chwiorydd sy'n cynnwys mwy na dau o blant.

'Niwed parhaol'

Dywedodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, cyn y lansiad: "

"Bydd gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru'r grym i ddarparu'r gwasanaethau mae eu hangen ar blant a darpar rieni mabwysiadu, gan fynd i'r afael ag unrhyw oedi neu anghydraddoldeb ym mhob rhan o'r wlad.

"Mae posibilrwydd y gallai oedi yn y system fabwysiadu achosi niwed parhaol i blant, gan ddwyn y cyfle gorau iddyn nhw gael teulu cariadus a sefydlog.

"Rydyn ni i gyd yn gwrthod derbyn bod plant yn cael eu colli yn y system ofal a dwi'n disgwyl gweld cynnydd dros y blynyddoedd nesaf wrth i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol godi safonau a pherfformiad."