'Diffyg hyder' yn system gwynion y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad Cenedlaethol

Mae diffyg hyder yn sut mae'r Cynulliad yn delio â honiadau o ymddygiad amhriodol yn golygu fod pobl yn gyndyn o wneud cwynion swyddogol yn erbyn Aelodau.

Dyna un o gasgliadau adroddiad gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad sy'n gweithio ar ganllawiau newydd ar y modd mae ACau ym Mae Caerdydd yn ymddwyn.

Ers sefydlu'r Cynulliad bron i 20 mlynedd yn ôl, does dim un gwyn swyddogol wedi bod am ymddygiad amhriodol yn erbyn AC.

Ond yn ôl adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, mae'r dystiolaeth yn awgrymu fod sawl achos o aflonyddu rhywiol wedi bod ond nad oedd cwynion swyddogol wedi eu gwneud.

Mae'n dweud fod rhai pobl yn gyndyn o wneud cwyn oherwydd diffyg ffydd yn y system i allu newid dim.

Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad mae cyflwyno system gwynion di-enw ac ystyried honiadau oedd wedi digwydd dros 12 mis cyn gwneud y gwyn.

'Urddas a Pharch'

Mae adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - "Creu'r Diwylliant Cywir: Polisi Urddas a Pharch", dolen allanol - yn dweud y gallai "diffyg cwynion o'r fath fod yn symtomatig o'r materion ry'n ni'n eu hwynebu".

"Fe glywon ni fod pobl yn amharod i wneud cwynion am resymau fel yr effaith posib ar yrfa; y niwed i enw plaid wleidyddol; pryder a fyddai'r gwyn yn cael ei thrin yn briodol a diffyg hyder yn y system i newid pethau.

"Mae'r rhain yn heriau clir, ac rydym yn benderfynol o ddelio â nhw."

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad - y corff sy'n rheoli'r Cynulliad - gasgliadau arolwg anhysbys a chyfrinachol o'i staff.

Dywedodd 32 o bobl eu bod wedi profi ymddygiad amhriodol ar sawl achlysur, un ai yn eu gwaith fel aelod staff i'r comisiwn, neu i Aelod Cynulliad neu grwp plaid yn y Cynulliad.

Dywedodd pump arall eu bod wedi profi ymddygiad amhriodol ar un achlysur.

Yn y dyfodol, bydd staff y Cynulliad yn ateb arolwg "urddas a pharch" blynyddol, fydd ymysg pethau eraill yn gofyn iddyn nhw am eu profiadau o fwlio neu aflonyddu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Mae mudiad cyfle cyfartal Chwarae Teg yn croesawu'r adroddiad gan ddweud ei fod yn dangos arweiniad ar sut i fynd i'r afael â'r materion dan sylw.

"Mae'r Pwyllgor yn amlwg wedi cymryd i ystyriaeth sylwadau a godwyd gan Chwarae Teg ac eraill", meddai'r Prif Weithredwr, Cerys Furlong.

"Mae'n allweddol ein bod ni'n datblygu amgylchedd sy'n caniatáu i fenywod fynegu pryderon heb ofn cael eu targedu, eu cam-drin neu eu haflonyddu.

"Dyma adroddiad sydd wedi ei ystyried yn ofalus, sy'n gosod llwybr tuag at gyflawni hyn."