Angen i bolisi ymddygiad 'warchod achwynwyr dienw'

  • Cyhoeddwyd
aflonydduFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mudiad wedi dweud nad yw polisi dros dro ar gyfer taclo ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad yn gwneud digon i warchod pobl sydd am achwyn yn ddienw.

Dywedodd Chwarae Teg, elusen sy'n cefnogi menywod yn y gweithle, fod hefyd angen gwneud mwy i ddelio â sarhau ar-lein.

Mae disgwyl i'r cynlluniau ddenu cefnogaeth drawsbleidiol pan maen nhw'n cael eu trafod ddydd Mercher.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad fod y polisi yn berthnasol ar gyfer "pob math o ymddygiad amhriodol".

'Newid diwylliant'

Daw'r Polisi Urddas a Pharch newydd, sydd yn ceisio rheoleiddio ymddygiad Aelodau Cynulliad yn gyhoeddus ac yn breifat, yn sgil honiadau o gamymddwyn yn San Steffan ddaeth i'r amlwg llynedd.

Y bwriad yw ei gwneud hi'n gliriach beth sy'n cael ei ystyried yn ymddygiad amhriodol, a'i gwneud hi'n haws i ddioddefwyr adrodd am ddigwyddiadau.

Ond dywedodd prif weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn fater sydd ar goll o'r polisi newydd, ac fe fydden ni'n awgrymu bod angen sylw brys i hynny."

Ychwanegodd ei bod yn "hanfodol ein bod yn datblygu diwylliant ym mywyd cyhoeddus Cymru sy'n caniatáu i fenywod gyflwyno honiadau heb boeni am gael eu haflonyddu a'u targedu yn ymosodol a chyson, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen delio ag aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol "ar frys", meddai Cerys Furlong

Bydd y cod newydd yn berthnasol i'r holl ACau, eu staff, swyddogion y Cynulliad a chontractwyr - ond mae'n mynd yn bellach na'r cod ymddygiad presennol ar gyfer yr ACau eu hunain.

Byddai disgwyl i'r gwleidyddion ddilyn y cod ymddygiad newydd ym mhob man, gan gynnwys pan maen nhw'n "ymddwyn fel unigolyn preifat e.e. ar wyliau".

Ers mis Tachwedd mae pwyllgor safonau'r Cynulliad wedi bod yn adolygu'r cod ymddygiad presennol ar gyfer ACau, ond ym mis Mawrth fe gyhoeddon nhw y byddai eu hadolygiad yn cymryd hirach na'r disgwyl.

Yn y cyfamser mae llinell ffôn a chyfrif e-bost cyfrinachol wedi cael eu sefydlu ar gyfer staff y Cynulliad, gyda swyddogion penodedig ar gael i ddelio ag unrhyw honiadau.

'Cam bach'

Mae Chwarae Teg wedi dweud fodd bynnag bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y rheiny sy'n gwneud honiadau yn gallu aros yn ddienw.

Mae'r polisi ei hun yn dweud y bydd "fel arfer yn angenrheidiol i ddatgelu pwy ydych chi i'r person rydych yn cwyno amdanynt, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg".

Yn ôl yr elusen dyw hi "ddim yn glir a oes disgwyl i'r AC sydd dan ymchwiliad beidio datgelu pwy yw'r person sydd wedi cwyno, ac a fydd goblygiadau os yw'r manylion hynny'n cael eu cyhoeddi".

Fodd bynnag, dywedodd yr elusen fod y polisi yn "gam pwysig" tuag at daclo achosion o ymddygiad amhriodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cerys Furlong nad yw'n glir a fydd yn rhaid i ACau warchod cyfrinachedd achwynwyr

Mae UKIP Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi'r polisi, ac mae Plaid Cymru wedi dweud y dylai gael ei ystyried fel "un cam bach ar siwrne llawer hirach".

"Nid bwriad y polisi yw delio'n uniongyrchol â phob cyd-destun posib, ond i fod yn garreg filltir yn y broses o greu diwylliant o barch ac urddas," meddai AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Cynulliad eu bod wedi ymgynghori â nifer o gyrff er mwyn llunio'r polisi, ac y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud yn dilyn argymhellion y pwyllgor safonau.

"Yn y cyfamser mae'r polisi yma'n gosod y safonau uchel o ymddygiad y gall unrhyw un sy'n dod i gyswllt ag ACau, neu unrhyw un yn gysylltiedig â'r Cynulliad, ei ddisgwyl," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r polisi yma'n berthnasol ar gyfer pob math o ymddygiad amhriodol sy'n effeithio ar urddas rhywun arall - hynny yw, unrhyw ymddygiad dieisiau."