Arestio ac atal cynghorydd o Wrecsam o'i waith

  • Cyhoeddwyd
Paul Rogers a swyddfeydd Cyngor WrecsamFfynhonnell y llun, Wrexham council/Google
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Paul Rogers yn ail i Ken Skates, Llafur, yn etholiadau Cynulliad 2011

Mae cynghorydd gyda'r Ceidwadwyr yn Wrecsam wedi cael ei atal o'r blaid yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu.

Cafodd Paul Rogers ei arestio yn dilyn digwyddiad honedig ym Mrymbo, yr ardal mae'n ei chynrychioli ar y cyngor.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod y blaid yn ymwybodol o honiad yn erbyn un o'u cynghorwyr, a'u bod wedi ei atal o'i waith.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 33 oed wedi cael ei arestio a'i ryddhau dan ymchwiliad.

Bu Mr Rogers, o Frymbo, yn aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam am gyfnod.

Gadawodd ei rôl fel aelod arweiniol dros wasanaethau ieuenctid a gwrthdlodi ym mis Chwefror, gan ddweud fod ganddo ymrwymiadau gwaith a'i fod am dreulio amser ar faterion yn ei ward.

Arestio yn dilyn digwyddiad

Cafodd Mr Rogers ei ethol i'r cyngor yn 2008, a'i ail-ethol ym Mai 2017 gyda 50% o'r bleidlais.

Safodd dros y Ceidwadwyr yn etholiad Cynulliad 2011, gan ddod yn ail i Ken Skates, AC Llafur, yn Ne Clwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Rydym yn ymwybodol bod honiad wedi cael ei wneud am gynghorydd yng Ngogledd Cymru, a bod hynny'n cael ei ymchwilio gan yr heddlu.

"Gallwn gadarnhau bod y cynghorydd dan sylw wedi cael ei atal o'r blaid."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd: "Mae dyn lleol 33 oed wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad honedig ym Mrymbo ar 4 Medi a bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

"Am fod yr ymchwiliad yn parhau i fod yn ei ddyddiau cynnar, ni fyddai'n addas i ni wneud unrhyw sylw pellach."

Yn ôl Cyngor Wrecsam, mae'r honiad yn fater i'r cynghorydd ymateb iddo.

Mae Mr Rogers bellach yn cael ei ddisgrifio'n gynghorydd annibynnol ar wefan y cyngor, ac wedi dweud nad yw'n gallu cynnig sylw am yr honiadau ar hyn o bryd.