Dim esboniad dros fethu beichiogi'n naturiol
- Cyhoeddwyd
Bydd un ym mhob saith cwpl yn wynebu problemau wrth geisio cael plant. Weithiau, mae doctoriaid yn gallu rhoi rheswm pam i'r cyplau ond mewn sawl achos mae'n anesboniadwy.
Cysylltodd cwpl ifanc sydd yn wynebu problemau beichiogi gyda Cymru Fyw yn ddiweddar i rannu eu stori.
Dydyn nhw ddim eisiau cael eu henwi ond fe gawson nhw eu hannog i ddweud eu stori ar ôl cael eu hysbrydoli gan benderfyniad Elin Fflur a'i gŵr Jason yn ddiweddar i drafod eu taith i geisio cael babi drwy broses IVF.
Dyma'u profiad nhw o'u taith drwy broses ffrwythlonni wahanol - IUI (Intrauterine insemination).
O'n i'n arfer meddwl y byddai dechrau teulu yn rhwydd. Ond dw i newydd dalu £1,450 dros y ffôn am goctêl o feddyginiaeth a fydd - gobeithio - yn fy helpu i gael fy mabi cyntaf gyda thriniaeth o'r enw IUI.
Bedair blynedd yn ôl, ges i brawf beichiogi positif ac ro'n i'n excited bost. Tynnes i lun ohono a'i anfon at y gŵr fel sypreis! Mae'r llun dal gyda fi - sai'n siŵr pam.
Yn fuan wedyn, aethon ni ar wyliau i ddathlu fy mhen-blwydd yn 30 oed a roeddem ein dau yn y seithfed nef. Ond wap ar ôl cyrraedd adre, cwta chwe wythnos i mewn i'r beichiogrwydd, ddechreues i waedu. Collais y babi.
Colli babi yn y groth
Yn fy ngalar, doedd gen i ddim awydd trial am blentyn eto. Ro'n i'n dal i dorri 'nghalon am y babi golles i. Aeth dwy flynedd heibio cyn i ni benderfynu trial eto.
I fod yn onest, o'n i'n meddwl bydde dal yn rhwydd… gan i ni fod mor glou y tro cyntaf.
Chawson ni ddim lwc. Dim byd. Mis ar ôl mis, dim llwyddiant... am ddwy flynedd. A thrwy'r cyfan, yr un oedd cwestiynau a sylwadau pawb... "Ers faint chi'n briod nawr?" Tro ti i ga'l plant nawr" "Ti ddim moyn aros tan bo ti'n rhy hen." Fel 'se ti'n aros mewn ciw!
Profion di-ri
Aethon ni at y doctor a chael profion cychwynnol. Sberm y gŵr - tic. Fy lefel progesterone i - tic. Ond er mwyn ymchwilio ymhellach, roedd rhaid aros o leia' chwe mis gyda'r Gwasanaeth Iechyd. Rydyn ni'n dal i aros am apwyntiad.
Penderfynon ni barhau gyda chwmni preifat sy'n arbenigo ar dechnegau beichiogi cynorthwyedig a chael profion pellach. Y nifer o wyau gen i - tic. Tiwbiau ffalopaidd clir - tic.
Doedd dim rheswm penodol pam nad oedden ni'n beichiogi. Dywedodd y doctoriaid wrthon ni ei fod yn 'anffrwythlondeb anesboniadwy'.
Ar un llaw, mae'n rhyddhad clywed nad oes unrhyw beth yn bod arna i na'r gŵr, ond mae'n uffernol o rwystredig nad oes rheswm pam nad ydyn ni'n gallu beichiogi'n naturiol. Mae un ym mhob saith cwpwl yn ffendio eu hunain yn yr un sefyllfa.
Beth nesaf?
Doeddwn i erioed wedi clywed am driniaeth IUI tan i ni siarad gydag arbenigwyr ffrwythlondeb, sef gosod sberm dyn yng ngroth menyw fel bo'r siwrne sy' rhaid iddyn nhw deithio i gyrraedd ŵy dipyn yn llai.
Oherwydd canlyniadau ein profion ac fy oedran i, yn ôl yr arbenigwyr mae'n werth rhoi cynnig arni am nad yw'n driniaeth mor ddwys - na mor ddrud - ag IVF.
Ry'n ni wedi talu am dri cycle o IUI gan bo'r tebygolrwydd i "fynd â babi adre" i gwpl yn ein sefyllfa ni tua 20 y cant ar ôl tair triniaeth.
Byddwn ni'n dechrau'r driniaeth gyntaf ymhen rhyw wythnos. Bydd hyn yn golygu chwistrellu fy hunan gyda hormonau menotrophin am gyfnod o ryw wyth diwrnod.
Mae'r hormon yma'n bwerus ac yn cymryd rheolaeth o fy system biolegol. Ych! Ei bwrpas yw ysgogi'r ofarïau i aeddfedu ffoliglau, a'u gwneud yn fwy ffrwythlon.
Pan fydd yr amser yn iawn, bydda i'n chwistrellu hormon arall a fydd yn sicrhau 'mod i'n bwrw ŵy rhwng 24 a 48 awr yn ddiweddarach. Yn ystod y cyfnod allweddol hwn, bydd doctoriaid yn glanhau sberm fy ngŵr ac yn gosod y rhai gorau yn fy ngroth er mwyn rhoi'r cyfle gorau posib i un ohonyn nhw ffrwythloni un o fy wyau i.
Buodd fy ngŵr yn ddigon cheeky a gofyn os gewn ni arian yn ôl os byddwn ni'n lwcus iawn ac yn 'mynd â babi adref' y tro cynta'! Ro'dd hi'n amlwg ar wyneb y doctor taw nid ni o'dd y cynta' i ofyn hyn.
Amser a ddengys.
Straeon eraill o ddiddordeb: