Ysgol 'wedi siomi' â gwerthiant safle Llanisien S4C
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol breifat yn teimlo fod S4C wedi ei "gadael i lawr", ar ôl penderfyniad y sianel i beidio â gwerthu eu pencadlys yng Nghaerdydd.
Fe symudodd y sianel i'r safle newydd, Yr Egin yng Nghaerfyrddin, ddydd Llun.
Yn wreiddiol, y disgwyl oedd y byddai'r symudiad yn cael ei ariannu drwy werthu safle Llanisien, ond yn hytrach, mae S4C wedi gwerthu'r adeilad i adain farchnata'r cwmni.
Roedd ysgol breifat Kings Monkton wedi cynnig £3.75m am gyn gartref y sianel.
Ym mis Ebrill, fe ysgrifennodd Knight Frank, a oedd yn cynghori S4C ar y gwerthiant, at yr ysgol gan ddweud bod Prif Weithredwr y sianel wedi cytuno i werthu mewn egwyddor - ac mai 'ffurfioldeb' ddylai'r ddêl fod.
'Hynod o siomedig'
Cafodd Kings Monkton wybod yn hwyr ym mis Awst fod S4C yn tynnu 'nôl o'r ddêl.
Dywedodd Andrew McArthy, perchennog Kings Monkton, wrth Newyddion 9: "Roedd ein staff wedi siomi yn ofnadwy, ond mae'r ansicrwydd yn y ffordd cafodd y broses ei reoli wedi bod yn warthus,".
"Wastad yn dod 'nôl yn dweud pedwar wythnos arall, pedwar wythnos arall," meddai.
Ychwanegodd: "Maen nhw wedi gwneud hynny am 10 mis, pan oedd y ddêl fwy neu lai wedi ei chytuno. Rydyn ni'n teimlo fel eu bod nhw wedi ei'n gadael ni i lawr."
Yn ôl yr ysgol, roedd costau paratoadol y broses o brynu'r safle yn fwy na £30k, a'u bod nhw wedi cynnig £950k dros werth y safle ar y farchnad.
Dywedodd S4C fod diffyg eglurdeb ynglŷn â phryd roedd modd iddyn nhw symud offer technegol i safle newydd a rennir efo'r BBC yn ffactor yn y penderfyniad.
"Roedden ni ar ddeall bod eglurdeb ynglŷn â phryd y gallen ni symud i swyddfeydd newydd y BBC. Mae hyn wedi llithro 'nôl dros y misoedd diwethaf a gallai ddisgyn hyd yn oed yn bellach yn ôl.
"Fel prif weithredwr sydd yn gorfod sicrhau fod ein pencadlys yn ddiogel i ddarlledu ohono, mae yna lot o bethau i mi eu hystyried,"
"Ar sail yr hyn roedd yn digwydd, doeddwn i ddim yn credu bod yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn ddigon i ni gymryd y risg."
Mae'r BBC wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018