Achub bag aur gwerth miloedd o bunnau rhag mynd i'r bin
- Cyhoeddwyd
Fe allai dwy chwaer o Ddinbych gael miloedd o bunnau mewn arwerthiant fis nesaf am hen fag aur oedd ar fin cael ei daflu gyda'r sbwriel.
Roedd Margaret Pritchard wedi etifeddu'r bag a chasgliad o lythyrau a lluniau gan ddyn roedd yn arfer gofalu amdano, Gwyn Jones.
Fe gadwodd y cyfan yng ngarej ei chwaer, Linda Pritchard am saith mlynedd, ac fe benderfynodd i'w roi yn y bin pan roedd hithau eisiau clirio'r garej.
Ond fe aeth ei chwaer â'r bag i'r optegydd am nad oedd ei golwg yn ddigon da i ddarllen y marc arno, ac fe gafodd gadarnhâd ei fod wedi ei wneud o aur Americanaidd 15 carat.
'Bron iddo fynd i'r bin'
Dywedodd Linda, sy'n 61 ac yn gweithio mewn ffreutur: "Roedd Margaret yn meddwl mai jync oedd o ond doeddwn ni ddim mor siŵr.
"Dydy 'ngolwg ddim yn dda iawn felly mi es i'm optegydd yn Ninbych, a gofyn, 'Gallwch chi weld os oes 'na farc?'
"Ro'n i'n meddwl 'sa fo'n gallu edrych arno gyda'r chwyddwydr. Dywedodd wrtha'i fod o'n aur Americanaidd 15 carat.
"Bu bron iddo fynd i'r bin. Fysa fo 'di gallu mynd i'r tip."
Dywedodd Margaret, sy'n 59 ac yn gweithio mewn siop: "Wnes i gadw pethau Mr Jones yng ngarej Linda achos do'n i ddim yn gwybod be' i'w wneud hefo nhw.
"Un diwrnod aethon ni yna i'w sortio, a gan fod pethau bach yn damp, wnes i ddechrau taflu pethau i'r bin.
"Daethon ni ar draws y bag a wnes i feddwl fysa ni byth yn ei ddefnyddio a dweud wrth Linda 'cael gwared arno'. Ond wnaeth hi ei gadw. Meddylies i ddim ddwyaith amdano.
"Ond nes ymlaen y noson honno, wnes i feddwl 'Pam fydde Mr Jones yn cadw hwn, yr unig beth ar ôl o'i wraig?'"
Mae'r bag Art Deco gan Emanuel Joseph yn dyddio o 1913 ac mae ganddo leinin lledr. Cafwyd hyd iddo ynghanol casgliad o luniau o fywyd ar fwrdd llongau brenhinol y Queen Elizabeth a'r Queen Mary yn y 1940au a'r 1950au.
Bydd yn cael ei werthu gan gwmni arwerthu o Sir Derby, Hansons, ar 10 Hydref ac mae'r amcanbris rhwng £3,500 a £3,800.
Dywedodd Jane Williams, prisiwr y cwmni yng Nghymru bod y dogfennau a'r lluniau gyda'r bag yn dangos ei fod yn eiddo i Dora Jones, cymdeithaswraig gyfoethog oedd yn briod ar un cyfnod i David Archibald, o Birkdale, Southport.
Roedd yntau, meddai, yn ysgrifennydd cyffredinol y North Atlantic British Liner Committee, ac fe gafodd OBE yn 1948 am wasanaethau i'r diwydiant llongau.
'Tarddiad rhyfeddol'
"Mae'r bag â tharddiad rhyfeddol gan gynnwys nifer o luniau o'r cwpl ar fwrdd y Queen Mary a'r Queen Elizabeth - rydym yn credu y gallai fod wedi ei ddefnyddio yn ystod teithiau hudolus rhwng Southampton ac Efrog Newydd."
Bu farw Mr Archibald yn 1963 pan gafodd drawiad ar y galon wrth yrru ei gar.
Dywedodd Linda Pritchard bod Dora wedi ail-briodi â Mr Jones, oedd yn swyddog presenoldeb yn ysgol y ddwy chwaer.
"Yn ddiweddarach, daeth Margaret yn weithiwr gofal iddo a daeth i nabod y cwpl yn dda. Bu farw Dora, ac yna ryw wyth mlynedd yn ôl, bu farw Mr Jones.
"Ei ddymuniad oedd i fy chwaer gael popeth yn y tŷ."
Ychwanegodd: "Mae'n braf meddwl ein bod yn nabod rhywun oedd wedi bod ar y Queen Mary a'r Queen Elizabeth.
"Pan 'dach chi'n edrych trwy'r lluniau a'r bwydlenni o'r llongau, 'dach chi'n gweld sut roedd pobl gyfoethog ac enwog yn byw. Gawson ni ein magu mewn tŷ cyngor lle roedd arian yn brin iawn, iawn."