Morgannwg yn nesáu at golled arall yng Nghaint

  • Cyhoeddwyd
Zak CrawleyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Zak Crawley oedd y seren i Gaint gyda sgôr o 168

Mae clwb criced Morgannwg yn nesáu at eu seithfed colled yn olynol yn dilyn batiad cryf gan Gaint ddydd Mercher.

Y batiwr ifanc Zak Crawley oedd y seren i'r tîm cartref, gyda sgôr o 168.

Fe wnaeth hynny helpu Caint i gyfanswm o 436 o rediadau wrth ymateb i fatiad cyntaf Morgannwg o 186.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ddechrau ei hail fatiad, gan gyrraedd 33-4 ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.