Trên enwog Y Flying Scotsman i ymweld â gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Flying ScotsmanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y National Railway Museum mai pwrpas y daith oedd rhoi cyfle i gymaint o bobl a phosib i weld y Flying Scotsman

Bydd un o drenau enwocaf y byd yn teithio drwy ogledd Cymru ddydd Sadwrn fel rhan o daith ar hyd y Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i dorfeydd mawr gasglu i weld y Flying Scotsman, a fydd yn ymweld â Phrestatyn, Bae Colwyn a Chaergybi fel rhan o'r daith.

Ni fydd amserlen fanwl yn cael ei rhyddhau oherwydd pryderon am wylwyr yn tresbasu ar y lein.

Yn ôl Bob Gwynne, o'r National Railway Museum, mae'r Flying Scotsman yn "symbol pwerus o'r oes stem".

Ffynhonnell y llun, PA

Fe aeth y locomotif enwog allan o wasanaeth yn 1963, cyn cael ei brynu gan ŵr busnes o ogledd Cymru, Alan Pegler.

Dechreuodd y daith ddiweddaraf ym mis Ebrill yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £4.1m.

Ar ôl cyrraedd pen y daith yng Nghaergybi, bydd y Scotsman yn aros am dair awr cyn dechrau ar ei thaith 'nol.

'Diwrnod i'w gofio'

Dywedodd Mr Gwynne: "Mae'n bosib mai dyma'r trên stem enwocaf yn y byd.

"Fe es i weld y Scotsman am y tro cyntaf pan oeddwn i'n wyth oed - mae'n un o'r pethau sy'n aros gyda chi drwy eich oes."

Ychwanegodd: "Bydd yn ddiwrnod i'w gofio i lawer".