Y nofiwr Jazz Carlin i gael seibiant o'r gamp
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofiwr Jazz Carlin wedi cyhoeddi ei bwriad i gymryd seibiant o'r gamp.
Ers ennill dwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016, mae Carlin wedi gweld cystadlu yn anodd.
Gorffennodd Carlin yn chweched yn rownd derfynol y ras 800m yng Ngemau'r Gymanwlad mis Ebrill, yn ogystal â thynnu allan o'r ras 10km yng Nghwpan y Byd oherwydd salwch.
Mae disgwyl i Carlin ddychwelyd i'r gamp unwaith y mae hi'n holliach.
Dywedodd datganiad gan British Swimming: "Mae Jazz Carlin yn cymryd seibiant ar ôl blwyddyn anodd oherwydd anafiadau a salwch, er mwyn paratoi ar gyfer y tymor newydd."