Ymchwiliad gwaed: 'Cymry'n aros am y gwirionedd'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad cyhoeddus wedi clywed bod cleifion o Gymru a gafodd eu heintio ar ôl cael gwaed heintiedig, yn dymuno i'r cyhoedd glywed am eu profiadau.
Mae o leiaf 70 o bobl o Gymru wedi marw o gyflyrau fel Hepatitis C a HIV o ganlyniad i dderbyn gwaed heintiedig yn ystod trallwysiadau gwaeth a thriniaethau eraill yn y 1970au a'r 80au.
Ar ail ddiwrnod yr ymchwiliad yn Llundain, dywedodd y bargyfreithiwr Lloyd Williams QC fod yr unigolion a gafodd eu heffeithio angen clywed y gwirionedd.
Mae disgwyl i'r ymchwiliad bara hyd at ddwy flynedd.
Ymhlith yr achosion sy'n cael eu cyflwyno i'r gwrandawiad mae hanes llanc 17 oed a gafodd wybod bod HIV arno wrth ymweld ag ysbyty ar ben ei hun, gyda gorchymyn i beidio â dweud wrth neb - ddim hyd yn oed ei fam.
Cafodd un dynes ei heintio ar ôl gorfod cael trallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth.
'Straeon dychrynllyd'
Dywedodd Mr Williams yn ei araith agoriadol na ddylai'r ymchwiliad "fethu â sylweddoli maint dicter llwyr y dioddefwyr".
"Mae'r dioddefwyr yn dymuno gwrandawiad i'w straeon, ac mae gyda nhw straeon dychrynllyd i'w hadrodd," meddai.
Dywedodd fod rhywun wedi dweud wrth y llanc 17 oed bod ganddo 18 mis yn unig i fyw. Fe gafodd y diagnosis effaith ddifrifol ar ei iechyd meddwl, meddai, gyda'r canlyniad iddo gamddefnyddio sylweddau.
"Ni chafodd unrhyw gefnogaeth na chyngor o gwbwl, ac roedd yn amhosib iddo siarad am y peth gydag unrhyw un oherwydd y stigma ynghylch HIV," meddai Mr Williams. "Mae yn dal yn fyw, ond mae'n crafu byw."
Mae Mr Williams yn cynrychioli 109 o gleifion ac ymgyrchwyr yn yr ymchwiliad - y mwyafrif o Gymru.
Fe wnaeth ei ddisgrifio fel "dioddefwyr hollol ddiniwed methiannau trychinebus... sydd wedi condemnio miloedd i farw'n gynamserol a miloedd lawer yn rhagor i fyw dan gysgod salwch, ofn, dicter a thlodi."
Mae'r dioddefwyr, meddai, yn flin eu bod wedi gorfod ymladd yn galed "am bob peth, gan gynnwys triniaeth a chefnogaeth ariannol".
"Yr ymchwiliad hwn fydd y cyfle cyntaf ac olaf i ddioddefwyr wybod y gwirionedd ynglŷn â pham... ac ym mha amgylchiadau y cawson nhw eu [rhoi mewn perygl trwy gael] gwaed heintiedig," ychwanegodd.
'Gobaith am gyfiawnder'
Ar draws y DU, mae amcangyfrif bod tua 5,000 o bobl gyda hemoffilia a chyflyrau gwaed eraill wedi cael eu heintio dros gyfnod o 20 mlynedd, a bod bron i 3,000 o'r rheiny wedi marw.
Dywed Nigel Miller, un o ymddiriedolwyr yr elusen Haemophilia Wales, ei fod yn gobeithio y bydd modd "cael rhyw gyfiawnder" ar ran y miloedd o deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio oherwydd trallwysiadau gwaed heintiedig.
Cafodd Mr Miller ei heintio gyda Hepatitis C pan roedd oddeutu 14 oed yn sgil pigiadau i drin hemoffilia, ac mae'n ystyried ei hun yn "ffodus" o fod yn dal yn fyw.
Ond dywedodd ei fod "eisiau'r gwirionedd" a chael "gwybod pwy oedd yn gwybod bod y gwaed wedi ei heintio".
Roedd llawer o'r dioddefwyr angen triniaeth i geulo'r gwaed, ond oherwydd y galw am waed bu'n rhaid mewnforio cyflenwadau o'r Unol Daleithiau.
Roedd y cyflenwadau hynny'n cynnwys gwaed wedi ei werthu gan garcharorion, ac unigolion oedd â risg uchel o fod â heintiau yn y gwaed.
Yn 1991 y daeth trefn i rym i sgrinio gwaed rhag ei fod yn cario haint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017