Gwaith i drawsnewid 'man geni' yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd

Darlun artist o gastell Bryn y Beili a adeiladwyd gan y Normaniaid
Mae disgwyl i'r gwaith o drawsnewid safle castell canoloesol Yr Wyddgrug ddechrau ar ôl i gynlluniau dderbyn bron i £1m o Gronfa Treftadaeth y Loteri, a sêl bendith i'r cynlluniau gan Gyngor Sir y Fflint.
Cafodd y castell gwreiddiol ei hadeiladu gan y Normaniaid tua 1100 ac er bod yr adeilad wedi diflannu mae cadwraethwyr lleol yn gofalu am y gerddi ar y safle.
Y bwriad yw defnyddio'r arian y wella'r fynedfa i'r safle ac adeiladu adnodd i adrodd hanes ac egluro pwysigrwydd y castell.
Fe fydd adeiladu lle chwarae newydd yn y gerddi yn rhan o'r cynlluniau.
Mae Bryn y Beili yn cael ei ystyried yn fan geni Yr Wyddgrug - adeiladwyd y dref amgylch y castell gwreiddiol.
Bu brwydro mawr dros reolaeth o'r castell ac fe gafodd ei gipio sawl gwaith gan dywysogion Gwynedd a Chymru.
Sicrhaodd Llywelyn Fawr reolaeth o'r castell yn 1201, cyn iddo gael ei feddiannu gan luoedd Lloegr a Edward 1af yn 1277.
Fe aeth y castell yn adfail ac erbyn hyn mae coed a gerddi ar y safle.

Gorsedd y Beirdd yn cwrdd yng ngerddi Bryn Beili yn 1991