'Angen dangos elfen o wladgarwch tuag at fwyd lleol'
- Cyhoeddwyd
Bydd ffermwyr Cymru'n wynebu "anawsterau mawr" ar ôl Brexit oni bai fod y cyhoedd yn gwneud mwy i'w cefnogi, yn ôl un o gyn-gomisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Franz Fischler yn gomisiynydd amaeth, datblygu gwledig a physgodfeydd rhwng 1995 a 2004.
Petai yna rwystrau o ran masnachu yn sgil Brexit heb gytundeb, fe allai daro'r diwydiant cig oen yn benodol meddai, gyda phrynwyr Ewropeaidd yn troi at farchnadoedd eraill.
Yn ôl Mr Fischler, byddai angen datblygu strategaethau clyfar a sicrhau buddsoddiad er mwyn hyrwyddo'r cynnyrch o fewn i Gymru a gweddill y DU.
Ychwanegodd y byddai hefyd angen i brynwyr yng Nghymru ddangos "elfen o wladgarwch" tuag at fwyd lleol.
Ar hyn o bryd mae ffermwyr Cymru'n ddibynnol iawn ar allforio'u cynnyrch i'r cyfandir - gan gynnwys bron i draean o gynnyrch cig oen ac 13% o gynnyrch cig eidion.
Fe dreuliodd Mr Fischler chwe blynedd fel gweinidog amaeth Awstria, a dywedodd bod gwersi i Gymru o'r diwydiant amaeth yno.
"Fel Cymru, mae Awstria hefyd yn ardal sydd dan anfantais o ran amaeth - mae gennym nifer o ffermwyr mynydd a llawer o ffermydd bychain.
"Ond maen nhw'n gwneud bywoliaeth o'u gweithgarwch dim ond drwy farchnata a gwerthu yn lleol."
Brexit wedi 'deffro'r UE'
Mewn cyfweliad eang, dywedodd Mr Fischler ei fod o'r farn bod Brexit wedi "deffro'r UE", a byddai methu a dod i gytundeb gyda'r DU yn arwain at golledion sylweddol i'r ddwy ochr.
Mynnodd hefyd na allai Prydain gymryd "yr holl bethau da" ynglŷn ag aelodaeth o'r undeb a gadael y gweddill.
"Fe fydd 'na golledion beth bynnag ddaw - colledion i'r DU a'r 27 gwlad fydd ar ôl yn yr undeb.
"Ond bydd y golled honno gymaint â hynny yn fwy os na ddawn ni i gytundeb.
"Dyna pam dwi'n credu bod gwerth mewn brwydro yn galed iawn am gytundeb. Yn y diwedd, dwi'n teimlo'n gymharol gadarnhaol y bydd 'na ateb yn dod i'r fei."
Hyd yn oed os oes cytundeb, mae Mr Fischler yn honni ei bod hi'n annhebygol y bydd ffermwyr Cymru ar eu hennill, gan ragweld y bydd y gyllideb ar gyfer taliadau amaethyddol "ddim yr un fath ag y mae ar hyn o bryd".
"Y cwestiwn yw a fydd Llywodraeth y DU yn barod i gyfnewid y cyllid i gefnogi amaeth sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd a chyllid cenedlaethol?"
Fe gyfaddefodd serch hynny gallai ffermwyr weld bod lefel y biwrocratiaeth yn "symleiddio" ar ôl Brexit gyda llywodraethau Cymru a'r DU yn gyfan gwbl gyfrifol am eu polisi amaeth eu hunain.
Dywedodd bod yr UE yn symud yn yr un cyfeiriad, gan ddatganoli rhai cyfrifoldebau dros reoliadau amaeth i lywodraethau'r gwahanol wledydd.
Wrth ymateb i'r sylwadau dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar amaeth a materion gwledig fod Brexit yn cynnig "cyfle arbennig" ar gyfer amaeth yng Nghymru.
"Yn amlwg ry'n ni am weld cytundeb sy'n addas i'r ddwy ochr a sy'n annog masnach ar draws ffiniau, ond mae'n rhaid i ni hefyd gofio bod gennym ni'r diwydiant amaeth gorau yn y byd, yn cynhyrchu'r bwyd o'r safon gorau yn y byd.
"Felly, gadewch i ni fod yn hyderus ynglŷn â'r hyn ry'n ni eisiau ei weld ar gyfer y dyfodol a sefydlu sector sy'n denu pobl ifanc ac yn sicrhau ei ddyfodol."
Ychwanegodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru ei fod yn "hollol wir" y byddai angen gwneud mwy i gynyddu'r gwerthiant o gynnyrch Cymreig yn lleol ar ôl Brexit os yw allforio'n mynd yn anos.
Ond mynnodd na allai hynny ddigwydd dros nos, a'i bod hi'n angenrheidiol bod yna gytundeb rhwng y ddwy ochr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017